Gad i'm dreulio'm dyddiau ' gyd
I edrych ar dy wyneb-pryd;
Difyrru'm hoes o awr i awr,
I garu fy eiriolwr mawr.
Nid oes un gwrthddrych yn y byd,
Yn deilwng o fy serch a 'mhryd;
Mae tynfa f'enaid cannaidd cu,
At drysor trag'wyddoldeb fry.
Y'nghanol cyfyngderau caeth
A myrddiwn o ofidiau maith,
Gad i mi roddi pwys fy mhen
I orphwys ar dy fynwes wen.
'Nad bechod bellach rhoi i mi glwy
Nac ofn angau 'mlino 'i mwy;
Gwna fi'n gyfarwydd iawn o hyd,
A'r lwybrau'r ochr
draw i'r byd.
O cofia fi pan bwy'n y bedd
A chasgla'm llwch i'r lan mewn hedd,
O arddel fi'n y farn a ddaw,
A gosod fi ar dy ddeheulaw.
Diferion y Cyssegr 1802
[Mesur: MH 8888] gwelir: Nid oes un gwrthddrych yn y byd |
Let me spend all my days
Looking on thy countenance;
Enjoy my lifetime from hour to hour,
Loving my great advocate.
There is no object in the world,
Worthy of my affection and my attention;
He draws my dear bleached soul,
To the treasure of eternity above.
In the midst of captive straits
And a myriad vast griefs,
Let me put lean my head
To rest on thy blessed breast.
Do not let sin henceforth give me a wound
Nor the fear of death grieve me any more;
Make me very familiar always,
With the paths of yonder
side of the world.
O remember me when I am in the grave
And gather my dust up in peace,
O own me in the judgment to come,
And set me at thy right hand.
tr. 2020 Richard B Gillion
|
|