Fy Mugail yw'r Arglwydd,
ni bydd arnaf byth
Nac eisiau, na phrinder;
caf lawnder dilyth,
Gwna ef i mi orwedd
mewn gwelltog borfeydd;
Gerllaw dyfroedd tawel
y'm tywys bob dydd.
Fe ddychwel fy enaid,
fe'm harwain ar hyd
Hardd lwybrau cyfiawnder
tra b'wyf yn y byd:
Er mwyn ei wir enw,
IOR enwog, y gwna;
Can's mae fy Nuw yn ffyddlon
yn dirion a da.
Dim niwed nid ofnwn,
pe rhodiwn ar hyd
Glyn dwfn cysgod angau,
ni laesai fy mryd;
Can's gyda mi 'r ydwyt
a'th wialen a'th ffòn,
Y rhai a'm cysurant,
a'm cadwant yn llon.
Daioni, trugaredd,
dilynant fi'n glau
Holl ddyddiau fy mywyd,
gan hyfryd barhau:
Yn nhŷ y JEHOFA
preswyliaf fi byth,
Mewn hedd a chadernid,
heb newid fy nyth.
John Hughes 1775-1854
Tôn [11.11.11.11]: Mallwyd (<1835) |
My Shepherd is the Lord,
I will never have
Either need, or scarcity;
I will have endless fullness,
He makes me lie
in grassy pastures;
Beside quiet waters
he leads me every day.
He returns my soul,
he leads me along
Beautiful paths of righteousness
while I am in the world:
For the sake of his true name,
the renowned LORD, he does;
For my God is faithful
tender and good.
No change would I fear,
if I travelled along
The deep shadowed vale of death,
my heart would not droop;
For with me thou art
with thy rod and thy staff,
Those which comfort me,
and keep me cheerful.
Goodness, mercy,
they will follow me surely
All the days of my life,
enduring delightfully:
In the house of JEHOVAH
I will reside forever,
In peace and security,
without change of my nest.
tr. 2009 Richard B Gillion
|
|