Fy enaid, deffro! seinia gân
O foliant i'th Waredwr glân;
Fe haeddai glodydd mawr di frad,
Ei garedigrwydd, O mor rhad!
Fe'm gwelodd yn y cwymp ar goll,
Fe'm carodd, er fy meiau oll;
A chododd fi ar ddedwydd awr, -
Ei garedigrwydd, O mor fawr!
Er cael gwrthnebiad ar fy nhaith,
Gan luoedd byd ac uffern faith,
Fe'm daliodd yn y 'Storm a'r llif, -
Ei garedigrwydd, O mor gryf!
Yn nghanol trallod, poen a braw,
Gelynion cyfrwys ar bob llaw,
'Fe'm cadwodd rhag dinystriol bla, -
Ei garedigrwydd, O mor dda!
Fy nghalon euog, parod yw
I grwydro 'mhell odd'wrth fy Nuw;
Ond er im' haeddu bythol wae,
Ei garedigrwydd sy'n parhau!
Yn ebrwydd 'madael wnaf â'r byd,
Ei wagedd a'i bleserau gyd;
Boed imi ganu'n ymyl bedd
Ei garedigrwydd mawr a'i hedd.
Ac yna 'hedaf fry trwy ffydd
I ardal lon tragwyddol ddydd,
A chanaf byth
yn ngwydd fy Nêr
Ei garedigrwydd uwch y sêr.
Casgliad Joseph Harris 1824
Tonau [MH 8888]: |
My soul, awake! sound a song
O praise to thy pure Deliverer;
He deserves great, loyal praises,
His kindness, O how free!
He found me lost in the fall,
He loved me, despite all my faults;
And he raised me at the happy hour, -
He kindness, O how great!
Despite getting opposition on my journey,
From hosts of the world and vast hell,
He held me in the storm and the flood, -
His kindness, O how strong!
In the midst of trouble, pain and terror,
Crafty enemies on every hand,
He kept me from a destructive plague, -
His kindness, O how good!
My guilty heart, ready it is
To wander far away from my God;
But although I deserve everlasting woe,
His kindness is enduring!
Quickly leave, I shall, the world,
Its emptiness and all its pleasures;
May I sing at the side of the grave
His great kindness and his peace.
And then I shall fly above through faith
To the cheerful region of eternal day,
And I shall sing forever
in the presence of my Lord
His kindness above the stars.
tr. 2016 Richard B Gillion
|
|