Ffydd ydyw'm sicr sail y daw
Yr hyn wy'n ddisgwyl oddi draw;
Fy nghadarn sicrwydd yw, a'm nôd,
O'r peth nis gwelodd i neb erioed.
Trwy ffydd ehedeg 'rwyf yn hy'
I entrych awyr deneu fry,
Ac yno'n gwel'd gogoniant llawn,
Trwy sicrwydd anffaeledig iawn.
Trwy ffydd, pan b'wy' yn uchel fry,
Ac edrych tua'r ddaear ddu,
'R wy' yn ei gwel'd fel pellen gron,
Na thâl rhoi calon
byth ar hon.
'R wy'n gwel'd peth yn guddiedig sydd
I lygaid cnawd,
yn blaen trwy ffydd;
Fy rheswm balch a orfu dd'od
I lechu o'r diwedd dan fy nhroed.
Trwy ffydd, fy ngobaith, cadarn yw,
Fe'i seiliwyd ar gyfiawnder Duw;
Er maint yw llid
a brâd y ddraig,
Ni soddaf byth tra ar fath graig.
Trwy ffydd, 'dwy'n cyfrif fy holl waith,
Fy mhoen na'm dyledswyddau chwaith,
Ond colled, ac fel tom y byd;
Ar waed yr Oen
'rwy'n pwyso i gyd.
Trwy ffydd, rhow'd
i mi allu cry',
I daro lawr elynion lu;
I orfoleddu ar angeu glâs,
Pan b'wy' yn myn'd o'r byd i maes.
Trwy ffydd, 'rwy'n sefyll pan b'wy' lawr,
Dan d'wyllwch, mewn goleuni mawr;
Ni alla' i gredu 'r af ar goll,
Pan bo fy ngras o'r golwg oll.
Trwy ffydd, 'rwy'n credu pardwn rhâd,
'R hyn sydd yn d'rysu cig a gwaed,
I feddwl fod Duw'n cyfiawnhau
Y rhai ag sydd yn llawn o fai.
Trwy ffydd 'rwy'n cadw deddf fy Nuw,
Yn difa llygredd o bob rhyw;
A'r fath yw'r rhinwedd sy'n fy ffydd,
Mae'n puro 'nghalon nôs a dydd.
Trwy ffydd, galara'm henaid trist,
Pan gwelwy' i'm drywanu'm Crist;
Fy nghalon fach yn ddyfroedd dôdd,
Molianu Duw a wnaf ar goedd.
Symmuda'm ffydd fynyddoedd im',
O bechod ac euogrwydd llym;
Fe'i tafl i eigion môr yn wir
Y môr o waed a chariad pur.
Trwy ffydd yr wy'n gongcwerwr llym,
Er nad wyf fy hun yn gallu dim;
Can's mentro 'rwyf i roddi'n lân
Fy Nuw yn darian o fy mlaen.
Trwy ffydd 'rwy'n rhoi'm gelynion glwy',
Nad ofnwy' mo'u bradwriaeth mwy;
O herwydd rhoi Jehofa 'ngrym
Eilwaith o'r tu cefn im'.
William Williams 1717-91
Tonau [MH 8888]: |
Faith is my sure foundation to come
What I am expecting from yonder;
My firm security it is, and my aim,
The kind of thing no-one has ever seen.
Through faith fly I shall boldly
To the vault of the thin sky above,
And there seeing full glory,
Through very unfailing certainty.
Through faith, when I am high above,
And looking towards the black earth,
I am seeing it like a round ball,
It will never pay to set
the heart upon this.
I am seeing something, that is hidden
To the eyes of flesh,
foremost through faith;
My proud reason shall be forced to come
To lurk at last under my foot.
Through faith, my hope, firm it is,
It was founded on the righteousness of God;
Despite how great is the anger
and treachery of the dragon,
I shall never sink while on such a rock.
Through faith, I do not count my whole work,
My pain nor my duties either,
But loss, and as the dung of the world;
On the blood of the Lamb
I am leaning altogether.
Through faith, a strong
power was given to me,
To strike down a host of enemies;
To be jubilant over utter death,
When I am going out of this world.
Through faith, I am standing when I am down,
Under darkness, in a great light;
I cannot believe I shall go to perdition,
When all my grace is out of sight.
Through faith, I am believing free pardon,
That is confounding flesh and blood,
To think that God is justifying
Those how are full of sin.
Through faith I am keeping my God's law,
Eradicating corruption of every kind;
And such is the merit that is in my faith,
It is purifying my heart night and day.
Through faith, my sad soul shall lamenting,
When I see myself piercing Christ;
My little heart shall become waters,
Praise God I shall publicly.
My faith will move mountains for me,
Of sin and sharp guilt;
It will fling it into an ocean sea truly
The sea of blood and pure love.
Through faith I am a keen conqueror,
Although I myself can do nothing;
Since venturing I am to walk holy,
My God as a shield before me.
Through faith I am giving my enemies a wound,
I shall fear their treachery no more;
Because Jehovah puts my force
Additionally behind me.
tr. 2016,25 Richard B Gillion |
|