Fe geidw'r Iôn y gorsen wan,
Heb dori dan y tywydd;
A'r llîn yn mygu,
gwiria hyn,
Nis diffydd yn dragywydd.
Gwna'r Iôn y gorsen ysig wan,
Yn gadarn ac yn odiaeth;
A'r llîn yn mygu yn y man,
I'r lan, i'r lan, yn 'helaeth.
Thomas James, Dinas Noddfa, Abertawe.Crynhodeb o Hymnau Cristnogol (Daniel Jones) 1845 [Mesur: MS 8787] |
The Lord will keep the weak reed,
From breaking under the weather;
And the smoking flax,
he will strengthen this,
It will not be extinguished eternally.
The Lord makes the swaying, weak reed,
Firm and exceptional;
And the smoking flax soon,
Up, up, bountifully.
tr. 2016 Richard B Gillion
|
|