F'enaid gwan sefydla d'olwg
Ar yr Iesu'n unig nôd;
Nid oes arall dâl ei geisio,
Nac i bwyso arno'n bôd:
Câr Ef nes anghofio'th ofid,
Yma ar y ddaear ddu;
Câr nes i'th serchiadau hedeg
Ato i Gaersalem fry.
Câr yr Hwn a fedr wared,
Ac ymddiried iddo Ef;
Crêd, ac edrych i'r addewid
Am drysorau rhâd y nef:
Cyfoeth càn' mil
gwell na'r ddaear
Sy'n Ei eiriau glân i gyd:
Cyfoeth gwell na'r grëadigaeth
Im' yw gwedd Ei wyneb-pryd.
Cyfoeth yn yr anial garw,
Elw 'nglỳn wylofain yw;
Dyffryn galar try'n llawenydd,
Rhỳdd yn angeu fodd i fyw;
F'enaid, edrych i Galfaria,
Cofia am riddfanau'r ardd,
Nes b'o'n ddim dy holl deganau
Byth yn ngwedd Ei wyneb hardd.
Richard Jones ?1771-1833
Tonau [8787D]: |
My weak soul, establish thy sight
On Jesus our only aim;
There is no-one else worth seeking,
Nor is there anyone else to lean upon:
Love him until thou forget thy fear,
Here on the black earth;
Love him until thy affections fly
To him to Jerusalem above.
Love Him who can deliver,
And trust in Him;
Believe, and look to the promise
For the gracious promises of heaven:
Wealth a hundred thousand times
better than the earth
Are in all his holy words:
Wealth better than the creation
To me is the countenance of His face.
Wealth in the rough desert,
Profit in the vale of lamentation it is;
The valley of mourning shall turn to joy,
It will give in death a means to live;
My soul, look to Calvary,
Remember the groanings of the garden,
Until all thy trinkets be as nothing
Ever in the sight of his beautiful face.
tr. 2019 Richard B Gillion
|
|