Fyth, fyth, rhyfedda'i'r cariad,
yn nhragwyddoldeb pell,
A drefnodd yn yr arfaeth
im' etifeddiaeth well
Na'r ddaear a'i thrysorau,
a'i brau bleserau 'nghyd:
Fy nghyfoeth mawr diderfyn
yw Iesu, Brynwr byd.
Ar noswaith oer fe chwysai
y gwaed yn ddafnau i lawr,
Ac ef mewn ymdrech meddwl
yn talu'n dyled fawr;
Fe yfai'r cwpan chwerw
wrth farw ar y pren;
Palmantodd ffordd i'r bywyd
O'r ddaear hyd y nen.
Rhyfedda'r fuddugoliaeth
ar ben Calfaria fry,
Wrth farw fe gongcwerodd
fy holl elynol lu;
Caethiwodd bob caethiwed,
rh'odd roddion i'w ei saint,
Ni fedr neb tafodau
fynegi fyth eu maint.
Tragwyddol glod i'r cyfiawn
fu farw dros fy mai;
Fe adgyfododd eilwaith
o'r bedd i'm cyfiawnhau;
Ar orsedd ei drugaredd
mae'n dadleu yn y ne',
Ei fywyd a'i farwolaeth
anfeidrol yn fy lle.
Er gwaetha'r maen a'r gwilwyr,
Fe gododd Iesu'n fyw;
Daeth yn ei law alluog,
A phardwn dynolryw;
Gwnaeth etifeddion uffern,
Yn etifeddion nef;
Fy enaid byth na thawed,
A chanu iddo ef.
Ni cheisia'i 'n wyneb Moses
Ond Iesu i ddadleu 'nghŵyn,
Y Cyfiawn tros'r annghyfiawn
Fu farw er fy mwyn;
Yn ymchwydd yr Iorddonen,
Ac yn y farn a ddaw,
Dďangol yn y diwedd
Y fyddaf yn Ei law!
Morgan Rhys 1716-79
Tonau [7676D]: gwelir: Ar noswaith oer bu'r Iesu Bryd nawn ar y ddedwyddaf awr a gawn Er gwaetha'r maen a'r gwylwyr/milwyr Ni cheisiai yn wyneb Moses Tragwyddol glod i'r cyfiawn Yr Iesu adgyfododd |
Forever, forever, I will wonder at the love,
in a distant eternity,
Which was arranged in the plan
for a better inheritance for me
Than the earth and its treasures,
and its fragile pleasures altogether:
My great, endless wealth
is Jesus, the Redeemer of the world.
On an cold evening he would sweat
the blood as drops down,
And he in a mental struggle
paying our great debt;
He would drink the bitter cup
while dying on the tree;
He paved a way to the life
from the earth as far as heaven.
I will wonder at the victory
on the summit of Calvary above,
While dying he conquered
all my enemy host;
He took captive every captivity,
gave gifts to him his saints,
No tongue is able
to express ever their extent.
Eternal praise to the righteous one
who died for my sin;
He rose again
from the grave to justify me;
At the throne of his mercy
he is pleading in heaven,
His life and his immeasurable
death in my place.
Despite the stone and the guards,
Jesus rose alive;
He brought in his powerful hand,
The pardon of humankind;
He made the heirs of hell,
Into heirs of heaven;
Let my soul never be silent,
And sing unto him.
I shall not seek in the face of Moses,
But Jesus to argue my complaint,
The Righteous for the unrighteous
Who died for my sake;
In the swelling of Jordan,
And in the coming judgment,
Safe in the end
I shall be in His hand!
tr. 2015,17 Richard B Gillion
|
|