Fy Nuw gād imi brofi
Dy nawdd a'th nefol hedd,
Yr hyn wyt yn ei roddi
I'th saint tu yma i'r bedd.
Fy enaid a chwennychodd
Gael dy gymdeithas Di,
Trwy'r Hwn a ddyoddefodd
Ar fynydd Calfari.
Rho olwg ar dy allu,
I'm cynnal trwy fy oes,
Fel na b'o achos ofni
Un brofedigaeth groes.
Fy enaid eiddil cynnal
I deithio yn y blaen,
Ar hyd y dyrys anial
Nes d'od i Salem lān.
- - - - -
Fy Nuw! gād imi brofi
Dy nawdd a'th nefol hedd -
Yr hyn wyt yn ei roddi
I'th saint tu yma i'r bedd;
Fy enaid fawr chwennychodd
Gael Dy gymdeithas Di,
Drwy'r Hwn a ddyoddefodd
Un waith ar Calfari.
Un waith,
Un waith ar Galfari,
Drwy'r Hwn a ddyoddefodd
Un waith ar Calfari.
Rho olwg ar Dy allu,
I'm cynnal trwy fy oes,
Fel na bo achos ofni
Y cryf gorwyntoedd croes;
Fy enaid eiddil cynnal,
I deithio yn y blaen
Ar hyd y dyrys anial,
Nes dod i Salem lān.
Nes dod,
Nes dod i Salem lān,
Ar hyd y dyrys anial,
Nes dod i Salem lān.
Dafydd Morys 1744-91
Tonau [7676]:
Tōn [7676D+2676]: |
My God, let me experience
Thy protection and thy heavenly peace,
That which thou art giving
To thy saints this side of the grave.
My soul has craved
To get thy fellowship,
Through him who suffered
On the mountain of Calvary.
Grant a sight of thy power,
To uphold me throughout my age,
That there be no occasion to fear
Any contrary experience.
My weak soul uphold
To travel on,
Along the troublesome desert
Until coming to holy Salem.
- - - - -
My God, let me experience
Thy protection and thy heavenly peace -
That which thou art giving
To thy saints this side of the grave.
My soul greatly craved
To get thy fellowship,
Through him who suffered
Once on Calvary.
Once,
Once on Calvary,
Through him who suffered
Once on Calvary.
Grant a sight of thy power,
To uphold me throughout my age,
That there be no occasion to fear
The strong, contrary hurricanes;
My weak soul uphold,
To travel on,
Along the troublesome desert,
Until coming to holy Salem.
Until coming,
Until coming to holy Salem,
My weak soul uphold,
Until coming to holy Salem.
tr. 2020,25 Richard B Gillion
|
|