Fy Nuw, fy Nhad, tra bwyf o hyd
Yn crwydro 'mhell ar ffordd y byd,
O! Dysg im ddweud yn isel-fryd,
"D'ewyllys Di."
Os tywyll fo fy nrhyfran i
Na foed im rwgnach, Iesu cu,
Ond dweud yn dawel, fel Tydi,
"D'ewyllys Di."
Os newydd fedd a'm gwna i'n brudd,
Er dyfod dagrau ar fy ngrudd,
Fy ngweddi ostyngedig fydd,
"D'ewyllys Di."
Os rhaid im roi yn ôl i Ti
Y gorau peth sy gennyf i,
Mi geisiaf ddweud, er hyn, yn hy,
"D'ewyllys Di."
Adfywia f'ysbryd i bob dydd,
A dyro im oleuni ffydd,
Fel gallwyf ddweud â calon rydd,
"D'ewyllys Di."
O! bod im gaffael gweld dy wedd,
A phrofi grym
Glân Ysbryd hedd,
A chanu wnaf trwy f'oes
hyd fedd,
"D'ewyllys Di."
Hymnau Hen a Newydd 1868
Tôn [8884]: Troyte's Chant (A H D Troyte 1811-57) |
My God, my Father, while I am still
Wandering far along the world's road,
O teach me to say humbly,
"Thy will."
If darkness be my portion
May I not grumble, dear Jesus,
But say quietly, like thee,
"Thy will."
If a new grave makes me sad,
Although tears come upon my cheek,
My lowly prayer shall be,
"Thy will."
If I must put after thee
The best thing I have,
I will try to say, despite this, boldly,
"Thy will."
Revive my spirit for every day,
And give me the light of faith,
That I may say with a free heart,
"Thy will."
O may I get to see thy countenance,
And experience the force of
the Holy Spirit of peace,
And sing I shall throughout my age
until the grave,
"Thy will."
tr. 2021 Richard B Gillion
|
|