Fy Mugail da, dy lais o hyd A glywir uwch holl leisiau'r byd, Yn galw'r praidd i'th gorlan glyd; Fy Mugail da, 'r wy'n dod. Mi grwydrais drwy anialwch maith, Yn wan a llesg ar ddyrys daith; Ond adre'n awr, dan llawer craith, Fy Mugail da, 'r wy'n dod. Mae'n awr yn hwyr a'r nos gerllaw, A sŵn gelynion oddi draw A leinw 'nghalon wan â braw, Fy Mugail da, 'r wy'n dod. Rho glywed eto'r hyfryd lais Yn falm i wella 'nghlwyf a'm clais; Rho im dy nod, O! gwrando 'nghais, Fy Mugail da, 'r wy'n dod.James Spinther James (Spinther) 1837-1914
Tonau [8886]: |
My good Shepherd, thy voice still Is heard above all the voices of the world, Calling the flock to thy secure fold; My good Shepherd, I am coming. I wandered through a vast wilderness, Weak and feeble on a troublesome journey; But home now, under many a scar, My good Shepherd, I am coming. It is now late and the night at hand, And the sound of enemies from yonder Fills my weak heart with terror, My good Shepherd, I am coming. Grant to hear again the delightful voice As balm to heal my wound and my bruise; Give me thy mark, O listen to my request! My good Shepherd, I am coming.tr. 2025 Richard B Gillion |
|