Fy enaid, at dy Dduw,
Fel gwrthrych mawr dy gred,
Drwy gystudd o bob rhyw
A phob temtasiwn, rhed;
Caf ganddo ef gysuron gwir,
Fwy nag ar foroedd nac ar dir.
Pan beidio plant fy mam
 dala rhan o'm baich,
Ond gado'r llwythog groes
I bwyso ar fy mraich:
Tydi dy Hun, fy addfwyn Dad,
A'm dal i fyny ar fy nhra'd.
O! na allwn roddi 'mhwys
Ar dy ardderchog law,
A gado i gystudd ddod
Oddi yma ac oddi draw,
A byw dan nawdd y dwyfol waed
Yng ngolwg hyfryd dŷ fy Nhad.
'D oes dim a wna fy modd,
Dim help i'm henaid gwan,
Dim 'ladd riddfannau sydd
Yn berwi'r dydd i'r lan;
Ond dy fwynhau, a
phrof'th hedd
Sy yn wastadol hyfryd hedd.
Mi fyddaf lawen iawn,
A'm gofid dan fy nhraed,
O fore hyd brynhawn,
Dan adain gwir fwynhad;
Nid oes dim arall is y nef
A ddaw a'm henaid tua thref.
Tonau [666688]: gwelir: O na allwn roddi 'mhwys |
My soul, to thy God,
As the great object of thy faith,
Through affliction of every kind
And every temptation, run;
I will get from him true comfort,
Greater than on seas or on land.
When my mother's children stop
Holding part of my burden,
But let the burdensome cross
Weigh upon my arm:
Thou thyself, my dear Father,
Shall hold me up on my feet.
O that I could lean
On thy excellent hand,
Which will keep affliction coming
From here and from yonder,
And live under the divine blood's protection
In the delightful sight of my Father's house.
There is nothing that pleases me,
No help for my weak soul,
Nothing that kills the groans that are
Boiling up the day;
But 'tis enjoying thee, and
experiencing thy peace
That are constant, delightful peace.
I will be very joyful,
With my fears under my feet,
From morning until evening,
Under the wings of true enjoyment;
There is nothing else under heaven
Which will bring my soul home.
tr. 2010,20 Richard B Gillion |
|