Fy Archoffeiriad nerthol 'nawr
Yw Iesu mawr bendigaid,
Trwy 'nabod ef,
gwir gymod ca',
A noddfa i fy enaid.
Ei 'nabod ef bob awr fwy-fwy,
Yw'r cwbl 'rwy'n ei geisio;
A thra b'wyf yn bererin byd,
Mi ro'f fy ngoglyd ynddo.
Ac wrth fyn'd trwy'r Iorddonen draw,
Bydd ef â'i law yn ddigon;
Ei 'nabod ef yn gyfaill caf,
Ac yna bloeddiaf "Digon".
Er angeu glas, er uffern drist,
Mae gallu Crist yn nerthol;
Ei 'nabod ef a'i ddwyfol ras,
Fe'm dwg i'r deyrnas nefol.
William Davies 1785-1851Llyfr Emynau 1823 [Mesur: MS 8787] |
My strong High Priest now
Is great, blessed Jesus,
Through knowing him,
true reconciliation I have,
And a refuge for my soul.
To know him more and more every hour,
Is all that I am seeking;
And while I am a world's pilgrim,
I wil put my trust in him.
And while going through yonder Jordan,
He and his hand shall be sufficient;
To know him as a friend I shall get,
And there I shall shout, "Sufficient!"
Despite utter death, despite sad hell,
Christ's power is strong;
Knowing him and his divine grace,
Shall bring me to the heavenly kingdom.
tr. 2023 Richard B Gillion
|
|