Ffordd â'i henw yn "Rhyfeddol" Ydyw'r ffordd ordeiniodd Duw; Ffordd dragwyddol, etto newydd; Ffordd i godi'r marw yn fyw: Ffordd yn ennill ei holl deithwyr I fyned tua'r nefoedd wen; Ffordd gyssegrwyd - âf ar hid-ddi I'r orphwysfa, draw i'r llwn. Ffordd mae llawer heb ei chanfod, Er ei bod fel hanner dydd; Mae'n guddiedig, ansathredig, I bawb ond perchenogion ffydd: Ffordd i gyfiawnhau'r annuwiol, I gael iddo fythol fyw, Ffordd gyfreithlawn i droseddwr I gael hedd a ffafor Duw. Ffordd amlygwyd wrth ei hangen, Yn yr addawedig Had; Ffordd a luniwyd cyn bod amser, Yn ol arfaeth fawr y Tad; Ffordd a drefnwyd mewn cyfammod, Yn ol cynghor Tri yn Un; Ffordd i'r hon mae Duw yn foddlawn, Ffordd sy'n lloni calon dyn.Ann Griffiths 1776-1805 [Mesur: 8787D] gwelir: Ffordd a drefnwyd cyn bod amser |
A way whose name is Wonderful Is the way that God ordained; An eternal way, yet new; A way to raise the dead alive: A way to all its travellers To go towards bright heaven; A consecrated way - I shall go along it To the resting-place, beyond the curtain. A way that many do not find, Although it be like midday; It is hidden, untrodden, To all but the possessors of faith: A way to justify the ungodly, For him to get eternally to live, A legal way for the transgressor To get the peace and favour of God. A way made evident at need, In the promised Seed; A way planned before time was, According to the Father's great purpose; A way that was arranged in a covenant, According to the counsel of Three in One; A way to this, with which God is satisfied, A way that cheers the heart of man.tr. 2025 Richard B Gillion |
|