|
1,2,3,4,5,6; 1,2,3,5.
Bachgen a aned, Mab ro'ed in';
Ei enw sy'n Rhyfeddol;
Ar ysgwydd hwn llywodraeth gaed,
Duw cadarn, Tad tragwyddol.
Chwilio ei berson hardd,
a'i waith,
Sy'n orchwyl maith anfeidrol;
Fe elwir yma,
a thrwy'r ne',
Ei enw e'n Rhyfeddol.
Deonglwch hyn, ddysgedig rai:
Rhyfeddu mae'r cenhedloedd -
P'odd gall'sai Mair ei gynnwys ef
Na chynnwys
nef y nefoedd?
Duw mawr, Creawdwr dŵr a thir,
I gael ei wir genhedlu
Gan forwyn wnaethpwyd ganddo ei hun,
Fy enaid sy'n rhyfeddu.
Mae holl ddoethineb Duw ynghyd
Yn cwrddyd yn ei berson;
Nid rhyfedd fod myrddiynau'r nef
'N ei foli ef yn gysson.
'Roedd doniau ein Duw i gyd fel môr
Dygyfor, heb eu rhifo,
Gynt oll ynghudd, ond yr awr hyn
Trwy'r Iesu yn disgleirio.
- - - - -
Bachgen a aned, Mab row'd in',
Ei enw sy'n Rhyfeddol;
Ar ysgwydd ef llywodraeth gaed,
Duw cadarn, Tad tragwyddol.
Chwilio ei Berson hardd,
a'i waith,
Sydd orchwyl maith anfeidrol;
Mae ar y llawr, ac yn y ne',
Ei enw E'n Rhyfeddol.
Deonglwch hyn, ddysgedig rai:
Rhyfeddu mae'r cenhedloedd -
P'odd gall'sai Mair ei gynnwys Ef,
Na chynnwys
nef y nefoedd?
Yr Hen Ddihenydd yn ddyn gwan,
Mewn preseb dan ei rwymau;
Y Gair tragwyddol ar lin Mair,
Heb fedru gair o'i enau!
Mae holl ddoethineb Duw yn nghyd
Yn cwrddyd yn ei Berson;
Nid rhyfedd fod y nefol lu
Yn ei ryfeddu'n gyson.
- - - - -
Fe roddwyd Mab yn rhad i ni,
Ei Enw sy'n Rhyfeddol;
Ar ysgwydd Hwn llywodraeth gaed,
Duw cadarn, Tad tragwyddol.
Chwilio ei berson hardd,
a'i waith,
Sydd orchwyl maith anfeidrol;
Mae ar y llawr, ac yn y ne'
Ei Enw E'n Rhyfeddol.
Yr Hên Ddihenydd yn ddyn gwan
Mewn preseb, dan ei rwymau;
Y Gair tragwyddol ar lîn Mair
Heb fedru
gair â'i enau!
Mae holl ddoethineb Duw yn nghyd
Yn cwrddyd yn ei Berson;
Nid rhyfedd fod y nefol lu
Yn ei addoli'n gyson.
I'r TAD, a'r MAB,
a'r YSPRYD GLÂN
Dyrchafer cân Clodforedd,
Fel gynt yr oedd, y mae'n ddilyth,
A phery byth heb ddiwedd.
William Williams 1717-91
Tonau [MS 8787]: gwelir: Mae doniau Duw i gyd fel môr |
A boy was born, a Son given to us;
His name is Wonderful;
On his shoulder government is had,
Mighty God, eternal Father.
Seeking his beautiful person,
and his work,
Is a vast, immeasurable task;
He is to be called here,
and throughout heaven,
His Name is Wonderful.
Interpret this, learned ones:
The nations are amazed -
How could Mary contain him
That the heaven of heaven
does not contain?
Great God, the Creator of water and land,
Truly to be begotten
Of a virgin made by himself,
My soul is wondering.
All the wisdom of God altogether is
Meeting in his person;
No wonder that myriads of heaven are
Praising him constantly.
All the gifts of our God were like a
Swelling sea, without number,
Once all hidden, but now
Through Jesus shining.
- - - - -
A boy was born, a Son was given to us,
His name is Wonderful;
On his shoulders government is found,
A firm God, an eternal Father.
Searching his beautiful Person,
and his work,
Which is a vast, immeasurable task;
On the earth, and in heaven,
His name is Wonderful.
Interpret this, learned ones:
The nations are amazed -
How could Mary contain Him,
That the heaven of heaven
does not contain?
The The Ancient of Days in weak man,
In a manger under his bonds;
The eternal Word on Mary's knee,
Without being able to utter a word!
All the wisdom of God altogether is
Meeting in his Person;
No wonder that the heavenly host is
Wondering at him constantly.
- - - - -
A son was given freely to us,
His name is Wonderful;
On His shoulder government is had,
Mighty God, eternal Father.
Searching his beautiful person,
and his work,
Is a vast, immeasurable task;
On the earth, and in heaven
His Name is Wonderful.
The Ancient of Days in weak man
In a manger, under his swaddling bands;
The eternal Word on Mary's knee
Without the ability
of a word with his mouth!
All the wisdom of God altogether is
Meeting in his Person;
No wonder that the heavenly host be
Worshipping him constantly.
To the FATHER, and the SON,
and the HOLY SPIRIT
Be raised a song of praise,
As it was formerly, it is unfailingly,
And shall continue forever without end.
tr. 2015,18 Richard B Gillion
|
|