Fe dderfydd cystuddiau,
a thristwch, a gwae,
Y bobl y maddeuodd
yr Arglwydd eu bai;
Er gwyntoedd gwrth'nebus,
tra f'ont yn y byd,
Hwy ddygir i'r hafan
dymunol i gyd.
Mae'r haulwen yn dirwyn
ein hamser i ben,
Rho'wn ffarwel i'r ddaear,
ehedwn i'r nen;
Dibrisiwn holl fawredd
a gwagedd y byd,
Mae'r Oen a fu farw
yn well nâ hwy gyd.
Ffarwell i anrhydedd
a mawredd y llawr,
Yn noeth ni fordwn
oddi yma ryw awr;
Cydwybod beddychol
sydd well yn ddible,
Nâ'r cwbl a welir
i gyd îs y ne'.
Mae'n Alpha, 'n Omega,
yn Gyfaill bob dydd,
Dechreuwr, ac Awdwr,
Perffeithydd ein ffydd;
Mae'n berffaith Iachawdwr
i bob gwahanglwyf,
Mae bywyd tra'wyddol
y saint yn ei glwyf.
Brawd erbyn caledi
a aned i'r gwan,
Ei Gyfaill yn angeu,
ei Fywyd a'i Ran;
Ei berffaith Arweinydd
trwy ddyfroedd a thân,
Ne's dyfod i'r bywyd
trag'wyddol yn lân.
I'r Tad, Mab a'r Ysbryd,
y Tri yn un Duw,
Gogoniant a gallu
rhown holl dynolryw,
Am achub trueiniad
a'u dygid i'r lan,
I'r unrhyw orseddfa
ag ef yn y man.
Morgan Rhys 1716-79Golwg o Ben Nebo 1775 [Mesur: 11.11.11.11] |
The afflictions shall vanish,
and the sadness, and the woe,
Of the people of whom
God forgave their fault;
Despite contrary winds,
while they be in the world,
They are all to be led
into the desired harbour.
The sunshine is winding
our time up,
Let us bid farewell to the earth,
let us fly to the sky;
Let us disregard all the majesty
and the vanity of the world,
The Lamb who died is
better than them all.
Farewell to the honour
and the majesty of the earth,
Naked we shall sail
from here some hour;
A conscience at peace
is better anywhere,
Than all that is to be
seen under heaven.
He is Alpha, Omega,
a Friend every day,
Originator, and Author,
the Perfecter of our faith;
He is a perfect Saviour
to every leper,
There is the eternal life
of the saints in his wound.
A Brother against hardship
who was born for the weak,
His Friend in death,
his Life and his Portion;
His perfect Guide
through the waters and fire,
Until coming to the eternal
life completely.
To the Father, Son and the Spirit,
the Three in one God,
Glory and power
let the whole of us humankind render,
For saving wretches
and bringing them up,
To the same throne
as him soon.
tr. 2016 Richard B Gillion
|
|