Fe agorodd ffordd i'r euog
Gael dyfodfa at y Tad,
I ymofyn am Ei heddwch,
Ac am lwyr faddeuant rhâd;
Ffordd gyfreithlawn
I'w dragwyddol gyfiawnhau.
Mae'r wahanlen wedi ei rhwygo
Rhyngom gynt a'r nefoedd gaed;
Mae y Barnwr yn ymddangos
Yn gymmodlawn yn y gwaed:
Goleu bellach
Yw y llwybr ato Ef.
Diluw y digofaint dwyfol,
Treio wnaeth er uched fu;
Cafodd gobaith le i roddi
'I droed i lawr ar Galfari;
Gweddi hefyd,
Le i ymbil wrth y fainc.
Dàn yr haeddfawr drugareddfa
Mae y gyfraith wrth ei bôdd;
Trwy ddïoddef ar Galfaria
Âg anfeidrol Iawn fe'i tôdd;
Iawn yn gysgod
Dros ei holl ofynion ro'ed.
William Thomas (Islwyn) 1832-78
Tonau [878747]: |
He opened a way for the guilty
To get access to the Father,
To ask for His peace,
And for full, free forgiveness;
A lawful way
To be eternally justified.
The curtain has been torn
That was formerly between us and heaven;
The Judge is showing
Reconcilingly in his blood:
Light henceforth
Is the path to Him.
The deluge of divine wrath,
Ebb it did despite how high it was;
Hope got a place to put
Its foot down on Calvary;
Prayer also,
A place to plead at the bench.
Under the meritorious mercy-seat
The law is satisfied;
Through suffering on Calvary
With immeasurable satisfaction he melted it
Satisfaction as a shadow
Over all its demands ever put.
tr. 2016 Richard B Gillion
|
|