F'anwylyd sydd fel lili hardd,
Hyfryda' erioed ei liw;
Rhagori mae ar flodau'r byd,
Y blodau pena' eu rhyw.
Y'mysg gwyryfon Sion fry,
Fel lili y'mysg y drain;
Efe yw'r Gwrthddrych goreu ei wedd,
A chariad pur y rhai'n.
Ac megys pren afalau pêr,
Y'nghanol prenau'r coed;
Felly f'Anwylyd yntau y'mhlith
Y meibion sy'n cael clod.
Eisteddais tan ei gysgod Ef,
A'i ffrwyth oedd felys iawn;
Ac yma treuliwn ddyddiau f'oes,
Fyth, fyth, yn ddedwydd iawn.
Darfydded sôn am
bleser mwy,
Yn agos ac y'mhell,
Fel gallwyf yfed dyfroedd pur
O ffynnon lawer gwell.
Darfydded dydd, darfydded nos,
Fel mynyd bach o'r awr,
Tra b'wyf yn caru, a rhoi 'mhwys,
Ar fynwes f'Arglwydd mawr.
William Williams 1717-91
Tôn [MC 8686]: Smyrna (<1835) gwelir: Darfyddwn sôn am bleser mwy Iesu difyrwch f'enaid drud Mae durtur yr efengyl fwyn Yn mysg gwyryfon Seion fry |
My beloved is like a beautiful lily,
The most delightful in colour;
It excels the flowers of the world,
The chief flowers of their kind.
Amongst the virgins of Zion above,
Like a lily amongst the thorns;
He is the Object of the best countenance,
And the pure love of those.
And like a sweet apple tree,
In the midst of the trees of the wood;
Thus is my Beloved himself amongst
The sons who get acclaim.
I sat under His shadow,
And his fruit was very sweet;
And here I spend the days of my age,
Forever and ever, very happily.
Let the mention of pleasure
vanish henceforth,
Near and far,
That I may drink pure waters
From a far better well.
Let day vanish, let night vanish,
Like a small minute of the hour,
While ever I am loving, and leaning,
On the breast of my great Lord.
tr. 2019 Richard B Gillion
|
|