Er tynu i lawr
y tŷ o bridd,
A myn'd i byrth
y bedd;
Caf 'hedeg uwch y don
ryw ddydd,
Yn llon i fyd o hedd.
Nid oeda'r cerbyd ddim yn hir,
Mi glywa'r hyfryd lef -
"Tyr'd, fy anwylyd, gwel y tir,
A gwel ei degwch Ef."
Dan obaith gwisgo'r goron wiw,
'Rwyf heddyw'n dwyn y groes;
Dysgwylia'n dawel tra b'wyf byw,
Nes darfod pob rhyw loes.
Llyfr Tonau ac Emynau (Stephen & Jones) 1868
Tôn [MC 8686]: Old Martyrs (Scottish Psalter 1611) |
Despite the pulling down
of the house of soil,
And going to the portals
of the grave;
I will get to fly above the wave
some day,
Cheerfully to the world of peace.
The chariot will not delay long,
I hear the delightful cry -
"Come, my beloved, see the land,
And see His fairness."
In hope of wearing the worthy crown,
I am today bearing the cross;
Waiting quietly while ever I live
Until every kind of anguish passes away.
tr. 2016 Richard B Gillion
|
|