Erioed ni chlywyd mewn un wlad,
Am neb fel Iesu'r
Meddyg rhâd;
Na meddyginiaeth mewn un oes,
Yn gwella pawb, ond gwaed y groes.
Yr enaid sydd yn teimlo'i blâ,
O! doed at Grist, Ef a'i gwellhâ;
Mae'n llwyr iachau
pob gradd ac oed,
Ni roes i fyny neb erioed.
Thomas Williams 1761-1844
Tonau [MH 8888]: gwelir: Crist yw y Meddyg mwya'i glod |
There has never been heard in any land
Of anyone like Jesus, the
gracious Physician;
Nor medicine in any age,
Healing all, but the blood of the cross.
The soul which is feeling its plague,
O come to Christ! He will heal it;
He is completely healing
every degree and age,
He has never given anyone up.
tr. 2015 Richard B Gillion
|
|