Er meithed yr yrfa,
a minnau yn flin,
Ac er mor dymhestlog
a chroes yw yr hin,
Mi redaf yn wrol
tra pery fy nydd,
Gan edrych ar Iesu,
Perffeithydd y ffydd.
Mae cwmwl o dystion
o hyd yn parhau
Yn wyn o fy amgylch,
rhag imi lescau;
A goleu y Nef
ar y cwmwl ymdaen,
I gymell fy ysbryd
lluddedig ymlaen.
Mi welaf Waredwr
ymlaen ar y Bryn,
Mae'n galw am danaf
tu arall i'r glyn;
I ymyl yr afon
yn llawen y daw
 choron cyfiawnder
i mi yn Ei law.
Bu yntau yn rhedeg
mewn trallod a chŵyn,
A thynnodd y drain
ar y ffordd er fy mwyn;
Cyrhaeddodd y goron,
er colli Ei waed,
A sathrodd elynion
yn fyrdd dan Ei draed.
Nid ofnaf elynion,
er amled eu rhi',
Mae gallu y Nef
mewn addewid i mi;
Am goron y bywyd,
am wisg ddi-ystaen,
Gan edrych ar Iesu,
mi redaf ymlaen.
Evan Rees (Dyfed) 1850-1923
[Mesur: 11.11.11.11] |
Despite how vast the course,
and I myself weary,
And although so tempestuous
and contrary is the climate,
I shall run bravely
while my nest endures,
Looking upon Jesus,
The Perfecter of the faith.
The cloud of witnesses is
still enduring
In white around me,
lest I grow feeble;
And the light of heaven
on the cloud spreads,
To urge my exhausted
spirit onward.
I see my Deliverer
ahead on the hill,
He is calling for me
on the other side of the vale;
To the side of the river
cheerfully he shall come
With the crown of righteousness
for me in his hand.
He himself ran
in trouble and complaint,
And pulled the thorns
on the road for my sake;
He reached the crown,
despite shedding his blood,
And trampled a myriad
of enemies under his feet.
I shall not fear enemies,
despite how manifold their number,
The power of heaven is
in promise for me;
For the crown of life,
for stainless clothing,
By looking upon Jesus,
I shall nun onwards.
tr. 2023 Richard B Gillion
|
|