Edrych 'r wyf, a hynny beunydd,
A hiraethu am y wawr,
Pryd y derfydd im â pechod,
Ac y caf roi 'meichiau i lawr,
Y caf ddihuno ar dy ddelw,
Fan caf wel'd dy ŵyneb gwiw,
Pan caf foli byth
heb dewi,
A bod yn debyg byth i'm Duw.
Fy natur egwan sydd yn soddi,
Wrth deimlo prawf
o'th ddwyfol hedd;
Ac yn boddi gan ryfeddod,
Wrth edrych 'chydig
ar dy wedd:
O! am gorff, a hwnnw'n rymus,
I oddef pwys gogoniant Duw;
Ac i'w foli byth
heb dewi,
A chydag Ef dragwyddol fyw.
Thomas Charles 1755-1814
Tonau [8787D]: gwelir: Gwelais 'chydig o'r ardaloedd Wedi cefnu pob rhyw stormydd |
Looking I am, and that daily,
And longing for the dawn,
When my sins will vanish for me,
And I get to lay my burdens down,
I shall get to awaken in thy image,
When I get to see thy worthy face,
When I get to praise forever
without falling silent,
And be forever like my God.
My weak nature is sinking,
On feeling the experience
of thy divine peace;
And drowning with wonder,
While looking a little
on thy countenance:
O for a body, and that strong,
To suffer the weight of the glory of God;
And to praise him forever
without falling silent,
And with him eternally to live.
tr. 2019 Richard B Gillion
|
|