'Dyw hi etto ond dechreu gwawrio
Yr haul a g'od yn uwch i'r lan;
Teyrnas Anghrist gaiff ei dryllio,
Iesu'n Frenin yn mhob man;
Cynhaua ddaw, mae gerllaw,
'Sgubau gesglir
yma a thraw.
Mi glywa lais y durtur fwynaidd
Efengyl Iesu newydd da;
Mae'r adar mân yn canu'n beraidd,
Mae ' wedi dechreu myn'd yn hâ:
Caethion prudd aeth yn rhydd,
Daeth yn Jubil lawen ddydd.
Chwi holl ffyddlon weision Iesu,
Cariad f'o 'n eich clymmu 'nghyd;
I dannu'r newydd da o ddeutu
Efengyl Iesu ar hyd y byd:
Parti sêl, darfod wnêl,
Derchafer Iesu yn ddigêl.
Diferion y Cyssegr 1802
- - - - -
'Dyw hi eto ond dechreu gwawrio,
Fe gwyd yr haul yn uwch i'r lan,
Teyrnas Satan gaiff ei dryllio,
Iesu'n Frenin yn mhob man;
Cynhaua ddaw maes o law,
Gesglir 'sgubau
yma a thraw.
[Mesur: 8787337] |
|
|