Dy lwybrau di, O! Arglwydd da,
Mor anchwiliadwy ydynt!
Ond dy gyfiawnder dysglaer, glân,
Lewyrcha allan ynddynt.
Symudaist, do,
dy was o'th dŷ,
Oedd fugail cu, gofalus;
Y gwiw a'r doeth weinidog da,
O'r eglwys dra galarus!
Er tewi yn y beddrod dû
Yr athraw fu'n llafurus;
Y Bugail mawr, anfarwol, mwyn,
A wylia'i ŵyn yn ddilys.
Yr ydym bawb ar fin y bedd,
Ar fyr cawn orwedd yno;
O am gael nabod Iesu'n Ffrind
I'n henaid cyn myn'd yno!
Benjamin Francis Horsley 1734-99
Tôn [MS 8787]: Cyffin (<1876) |
Thy paths, O good Lord,
How unsearchable they are!
But thy radiant, holy righteousness,
Shines out through them.
Thou didst move, yes,
thy servant from thy house,
Who was a dear, caring shepherd;
The worthy and the wise, good minister,
From the church so mournful!
Although the teacher who was diligent,
Falls silent in the black tomb;
The great, immortal, gentle Shepherd,
Shall watch the lambs unfailingly.
We all are on the edge of the grave,
Shortly we shall lie there;
O, to get to know Jesus as a Friend
For our soul before going there!
tr. 2019 Richard B Gillion
|
|