Dy enw, Iesu, a fawrhaf
Tu yma i Galfari,
A chanu yn fy nagrau wnaf
Wrth gofio D'ofid Di.
Er cael fy nghuro'n chwerw iawn
Heb falm i leddfu 'nghur,
Dy fynwes dyner sydd yn llawn
O gydymdeimlad pur.
Newidir gofid yn fwynhad,
A'r dduaf storm yn hedd;
Mae'r Atgyfodiad yn y wlad
Yn wylo ar y bedd.
Mi welaf donnau cariad Iôr
Ar draeth ein daear ni,
A chlywaf heddyw sŵn y môr
Yn llif Dy ddagrau Di.
O! Iesu glân, pan ddaw Dy lef,
A bywyd yn Dy law,
Mae'r glyn yn oleu hyd y nef,
Ac angau'n cilio draw.
Er nad oes ddeigryn ar Dy rudd
O fewn y nef yn awr,
Dy serch sy 'run
at galon brudd
Yng ngwlad y cystudd mawr.
Evan Rees (Dyfed) 1850-1923
[Mesur: MC 8686] |
Thy name, Jesus, I will magnify
This side of Calvary,
And sing in my tears I shall
While remembering Thy grief.
Although getting beaten very bitterly
Without any balm to ease my wound,
Thy tender bosom is full
Of pure sympathy
Grief is to be turned into enjoyment,
And the blackest storm into peace;
The Resurrection in the land is
Weeping over the grave.
I see waves of the Lord's love
On the shore of our earth,
And I hear today the sound of the sea
As a flood of Thy tears.
O holy Jesus, when Thy cry comes,
With life in Thy hand,
The vale is light up to heaven,
And death retreating yonder.
Although there is no tear on Thy cheek
Within heaven now,
Thy affection is the same
towards a sad heart
In the land of the great affliction.
tr. 2016 Richard B Gillion
|
|