Dy drugaredd dêg ragorol,
O'r trag'wyddol Arglwydd Dduw!
Yw y pur ddaioni penaf,
Arni byth y byddaf byw:
Mae'th drugaredd yn rhagori,
Ar oleuni'r haul-wen hardd;
Fy holl felys wir orfoledd
O'th drugaredd di a dardd.
Gwell nâ'r byd,
a gwell nâ'r bywyd,
Yw dy hyfryd hedd i mi,
Ni's gall dim ddigoni nghalon,
Ond dy dirion gariad di:
Os caf fi dy bresenoldeb,
A goleuni'th wyneb glân,
Llawenaf tan ergyd angau
Ynot ti, er diodde'r tân.
O am ganfod yn y gwynfyd,
Dy wynebpryd hyfryd di!
Golwg eglur ar fy Arglwydd
Rhydd hapusrwydd byth i mi:
Profi'th gariad yn dragywydd
Fydd fy mawr lawenydd maith,
A'th glodfori di yn felys,
Fydd fy ngorfoleddus waith.
Casgliad o Bum Cant o Hymnau (D Jones) 1810
- - - - -
Dy drugaredd rad a chyflawn,
O! drag'wyddol Arglwydd Dduw!
Yw fy etifeddiaeth benaf,
Arni byth y byddaf byw;
Mae'th drugaredd yn rhagori,
Ar oleuni'r haulwen hardd;
Fy nhawelwch a'm gorfoledd
O'th drugaredd di a dardd.
Gwell na'r byd, a gwell na'r bywyd,
Yw dy hyfryd hedd i mi;
Ni all dim ddigoni nghalon,
Ond dy dirion gariad di:
Ond os caf dy bresenoldeb,
A mwynhau dy siriol wedd;
Gallaw lawenhau yn angau,
Dianc heb
arswydo'r bedd.
Dafydd Jones 1770-1831Casgliad E Griffiths 1855
- - - - -
Dy drugaredd dêg ragorol,
Fy nhragwyddol Arglwydd Dduw,
Yw y pur ddaioni penaf,
Arni byth y byddaf byw:
Ei phrydferthwch sy'n rhagori
Ar oleuni'r haulwen hardd;
Fy holl felys wir orfoledd
O'th drugaredd fyth a dardd.
Gwell na'r byd,
a gwell na'r bywyd,
Yw dy hyfryd hedd i mi;
Nis gall dim foddloni 'nghalon,
Ond dy dirion gariad di:
Ond im' gael dy bresenoldeb,
A goleuni'th wyneb-pryd,
F'enaid gwan gaiff orfoleddu
Wrth wynebu'r bythol fyd.
Cas. o Hymnau ... Wesleyaidd 1844
Tôn [8787D]: Edinburgh (alaw Gymreig) |
Thy excellent fair mercy,
From the eternal Lord God!
Is the chief, pure goodness,
Upon it forever I shall life:
Thy mercy is exceeding
The light of the beautiful sunshine;
All my sweet, true rejoicing
Will spring forever from thy mercy.
Better than the world
and better than the life,
Is thy delightful peace to me;
Nothing can satisfy my heart,
But thy tender love:
If I get thy presence,
And the light of thy holy face,
I will rejoice until death strikes
In thee, despite suffering the fire.
O to perceive in the bliss,
Thy delightful countenance!
A clear vision of my Lord
Ready happiness forever for me:
To experience thy love in eternity
Will be my vast, great joy,
And to praise thy sweetly,
Will be my jubilant work.
- - - - -
Thy mercy free and full,
O eternal Lord God!
Is my chief inheritance,
Upon it forever I shall live;
Thy mercy is superior,
To the beautiful light of the sun;
My quietness and my rejoicing
From thy mercy shall spring.
Better than the world,
and better than life,
Nothing can satisfy my heart,
But thy tender love:
But if I get thy presence,
And to enjoy thy cheerful face;
I can rejoice in death,
Whole, without being
horrified at the grave.
- - - - -
Thy excellent fair mercy,
My eternal Lord God,
Is the chief pure goodness,
On it forever I shall live:
Its beauty is exceeds
The light of the beautiful sunshine;
All my sweet, true rejoicing
Will spring forever from thy mercy.
Better than the world
and better than the life,
Is thy delightful peace to me;
Nothing can satisfy my heart,
But thy tender love:
Only for me to get thy presence,
And the light of thy countenance,
My weak soul will get to rejoice
On facing the everlasting world.
tr. 2011,16 Richard B Gillion
|
|