Dy alwad, Geidwad mwyn,
Mor daer a thyner yw:
Mae ynddi anorchfygol swyn,
Fy Mrenin wyt a'm Duw.
Dilynaf, doed a ddêl,
Yn ôl dy gamre glân,
A'm bedydd sydd yn gywir sêl,
Cyfamod diwahân.
Y drymaf groes i mi
Fydd mwy yn hawdd i'w dwyn
Wrth gofio'r groes i Galfarî
A ddygaist er fy mwyn.
I ti fy hunan rof
Drwy broffes lân, ddi-lyth,
A boed ei hystyr yn fy nghof
Ac yn fy nghalon byth.
- - - - -
Dy alwad, Geidwad mwyn,
Mor daer a thyner yw:
Mae ynddi anorchfygol swyn,
A hiraeth calon Duw.
Dilynaf, doed a ddêl,
Yn ôl dy gamrau glân,
Ac yn fy medydd rhoddaf sêl,
Cyfamod diwahân.
Y drymaf groes i mi
Fydd mwy yn hawdd i'w dwyn
Wrth gofio'r un i Galfari;
A ddygaist er fy mwyn.
I ti fy hunan rof
Drwy broffes lân, ddilyth,
A boed ei hystyr yn fy nghof
Ac yn fy nghalon byth.
William Griffith Owen (Llifon) 1857-1922
Tonau [MB 6686]: |
Thy call, gentle Saviour,
So earnest and tender is:
There is in it insuperable charm,
My King thou art and my God.
I will follow, come what may,
After thy holy footsteps,
And my baptism will be truly a seal,
Of an unbreakable covenant.
The heaviest cross to me
Will be easier to bear
While remembering the cross of Calvary
Which thou didst bear for my sake.
To thee I will give myself
Through a holy, unfailing profession,
And may its meaning be in my memory
And in my heart forever.
- - - - -
Thy call, gentle Saviour,
So earnest and tender is:
There is in it the insuperable charm,
And the longing of God's heart.
I will follow, come what may,
After thy holy footsteps,
And in my baptism I will give a seal,
Of an unbreakable covenant.
The heaviest cross to me
Will be easier to bear
While remembering the one to Calvary
Which thou didst bear for my sake.
To thee I will give myself
Through a holy, unfailing profession,
And may its meaning be in my memory
And in my heart forever.
2008,10 Richard B Gillion
|
|