Duwioldeb sydd yn elw gwell
Na holl drysorau'r
India bell:
Hedd a llawenydd ynddi sydd,
Wna'r dywyll nos
yn olau ddydd.
Pan fo cysuron byd yn ffoi,
Mae gan dduwioldeb le i droi;
Gwledd o hyfrydwch ynddi sydd
Mewn ffwrn a ffau
i berchen ffydd.
Pan ballo cnawd a'i nerth yn un,
Pan ballo hyder calon dyn,
Duwioldeb dry yn wledd
pryd hyn,
Trwy olwg ar Galfaria fryn.
Nid oes gan angau golyn mwy
All roddi i dduwioldeb glwy':
Mae bywyd hon a'i thrysor gwiw,
Ynghadw gyda Christ yn Nuw.
Richard Jones 1772-1833
Tonau [MH 8888]: gwelir: Pan fo cysuron byd yn ffoi |
Godliness is a better reward
Than all the treasures of the
distant India:
Peace and joy in it are,
Which make the dark night
into the light of day.
When the comforts of the world are fleeing,
There is by godliness a place to turn;
A feast of delight in it there is
In a furnace and a lair
for a possessor of faith.
When flesh fades and its strength as one,
When fades the confidence of a man's heart,
Godliness will turn into a feast
at that time,
Through looking on Calvary hill.
Death has no sting any more
Which can give to godliness a wound:
This life and its worthy treasure is
Kept with Christ in God.
tr. 2016 Richard B Gillion
|
|