Duw o'i ryfedd dosturiaethau,
Drefnodd ffordd i gadw dyn;
Rhoddwyd baich ein hanwireddau
Ar y Meichiau mawr ei Hun;
Iesu'n unig
Allsai ddal y pwysau i gyd.
Darfod wna y byd a'i swynion,
Gwywa'i flodau gyda'r dydd;
Yn nhrigfannau hen gyfeillion
Dim ond gwacter heddiw sydd;
Iesu'n unig
Erys pan ymedy bawb.
Yn y dydd pan sycho'r olaf
O ffynhonnau mwyniant llawr,
A phan dyr y clymau tynnaf
Yn y gyfyng, galed awr;
Iesu'n unig
Ddeil i bwyso arno mwy.
Hugh Cernyw Williams (Cernyw) 1843-1937
Tonau [878747]: |
God of his wonderful mercy,
Arranged a way to save humankind;
He put the burden on our untruths
On the great Surety Himself;
Jesus only
Could hold all the weight.
Vanish shall the world and its charms,
Wilt it's flowers with the day;
In the dwellings of old friends
Naught but emptiness today there is;
Jesus only
Shall stay when everyone leaves.
On the day when dries the last
Of the founts of enjoyment of earth,
And when the knots turn tighter
In the strait, hard hour;
Jesus only
Shall endure to lean upon evermore.
tr. 2017 Richard B Gillion
|
|