Dof fel yr wyf, 'does gennyf fi
Ond dadlau rhin dy aberth di,
A'th fod yn galw: clyw fy nghri,
'Rwy'n dod, Oen Duw, 'rwy'n dod.
Dof fel yr wyf, ni thâl parhau
I geisio cuddio unrhyw fai;
Ond gwaed y groes all fy nglanhau:
'Rwy'n dod, Oen Duw, 'rwy'n dod.
Dof fel yr wyf, er ofnau lu,
A gallu y tywyllwch du
Yn curo arnaf o bob tu;
'Rwy'n dod, Oen Duw, 'rwy'n dod.
Dof fel yr wyf, pob croeso gaf
A phob ymgeledd gan fy Naf;
Ac ar d'addewid pwyso wnaf;
'Rwy'n dod, Oen Duw, 'rwy'n dod.
Dof fel yr wyf, syrthiodd i'r llawr
Bob cadwyn gref, 'rwyf finnau nawr
Yn eiddio i'r Gwaredwr mawr;
'Rwy'n dod, Oen Duw, 'rwy'n dod.
Dof fel yr wyf, caf brofi'n llawn
Dy gariad -
O anhraethol ddawn! -
A chanaf mwyach am yr Iawn;
'Rwy'n dod, Oen Duw, 'rwy'n dod.
cyf. Eliza Evans 1852-1920
Tôn [8886]: Agnus Dei (William Blow 1819-86)
gwelir: Fel fel yr wyf 'nawr atat Ti Oll fel yr wyf heb ddadl i'w dwyn |
I come as I am, I have nothing
But to argue the virtue of thy sacrifice,
And that thou art calling: hear my cry,
I am coming, Lamb of God, I am coming.
I come as I am, it is not worth continuing
To try to cover any fault;
But the blood of the cross can cleanse me:
I am coming, Lamb of God, I am coming.
I come as I am, despite a host of fears,
And the power of the black darkness
Beating against me from every side;
I am coming, Lamb of God, I am coming.
I come as I am, I have every welcome
And every help from my Master;
And on thy promise I will depend;
I am coming, Lamb of God, I am coming.
I come as I am, fallen down has
Every strong chain, I myself now
Belong to the great Deliverer;
I am coming, Lamb of God, I am coming.
I come as I am, I may experience fully
Thy love -
Oh inexpressible gift! -
And I will sing evermore of the Ransom;
I am coming, Lamb of God, I am coming.
tr. 2011 Richard B Gillion
|
Just as I am, without one plea,
But that Thy blood was shed for me,
And that Thou bidst me come to Thee,
O Lamb of God, I come, I come.
Just as I am, and waiting not
To rid my soul of one dark blot,
To Thee whose blood can cleanse each spot,
O Lamb of God, I come, I come.
Just as I am, though tossed about
With many a conflict, many a doubt,
Fightings and fears within, without,
O Lamb of God, I come, I come.
Just as I am, Thou wilt receive,
Wilt welcome, pardon, cleanse, relieve;
Because Thy promise I believe,
O Lamb of God, I come, I come.
Just as I am, Thy love unknown
Hath broken every barrier down;
Now, to be Thine, yea, Thine alone,
O Lamb of God, I come, I come.
Just as I am, of that free love
The breadth, length, depth,
and height to prove,
Here for a season, then above,
O Lamb of God, I come, I come!
1835,6 Charlotte Elliott 1789-1871
Tunes [8886/(8888)]: |