Doed dy heddwch pryd y delo,
Mi ddisgwyliaf ddydd a nos;
Annherfynol ydyw haeddiant,
Haeddiant pur dy angau loes;
Tyr'd yn fuan,
Mae dy hedd yn fwy na'r byd.
Bywyd perffaith yw'th gymdeithas,
Diliau mel yw'th heddwch drud;
Gwerthfawrocach yw dy gariad
Na holl berlau'r India i gyd:
Gwlad o gyfoeth,
Yw yn unig dy fwynhau.
Wrth dy orsedd 'rwyf yn gorwedd,
Dysgwyl am y ddedwydd awr,
Pan gaf glywed llais gorfoledd.
Pan gaf wel'd fy meiau 'lawr;
Ti gai enw'r
Fuddugoliaeth it' dy Hun.
William Williams 1717-91
Tonau [87874]: gwelir: Duw anfeidrol yw dy enw (Llanw'r nefoedd llanw'r ...) Wrth dy orsedd 'r wyf fi'n gorwedd |
Let thy peace come when it will,
I shall wait day and night;
Unbounded is the merit,
The pure merit of thy throes of death;
Come soon,
Thy peace is greater than the world.
A perfect life is thy company,
Combs of honey is thy precious peace;
More valuable is thy love
Than all the pearls of India altogether:
A land of wealth,
Is only to enjoy thee.
At thy throne I am lying,
I wait for the happy hour,
When I get to hear the voice of rejoicing.
When I get to see my faults down;
Thou shalt get the name of the
Victory for thee Thyself.
tr. 2019 Richard B Gillion
|
|