Deuwch engyl glān gogoniant,
Heirdd genhadon Duw ei Hun;
Ewch ā'r newydd dros y gwledydd -
Ganwyd Iesu, Ceidwad dyn:
Nef a daear
Heddiw fyddo'n gān i gyd.
Dwedwch am ei enedigaeth,
Dwedwch am ei febyd gwyn -
Am ei fywyd pur, dihalog, -
Dwedwch am Galfaria fryn:
Nef a daear
Heddiw fyddo'n gān i gyd.
Seiniwch lawen Haleliwia,
Holl dafodau is y nen,
Nes bo'r hyfryd gān yn cyrraedd
Euraid byrth y Ddinas wen:
Haleliwia,
Ganwyd Iesu, Ceidwad dyn.
John Newton Crowther (Glanceri) 1847-1928
Tôn [878747]: Alma (Samuel Webbe 1740-1816) |
Come, ye angels of holy glory,
Beautiful emissaries of God Himself;
Take the news across the countries -
Jesus was born, the Saviour of man:
Heaven and earth
Today shall all be song.
Tell about his birth,
Tell about his bright boyhood -
About his pure, untainted life, -
Tell about Calvary hill:
Heaven and earth
Today shall all be song.
Sound a joyful Hallelujah,
All ye tongues under the sky,
Until the delightful song reaches
The golden portal of the bright City:
Hallelujah,
Jesus was born, the Saviour of man.
tr. 2016 Richard B Gillion
|
|