Dâl fi, Arglwydd, dâl fi ronyn -
Ni raid iti 'nal yn hir;
Mwy sydd eisoes wedi ei deithio
Nag sy'n ôl o'r anial dir;
Bryniau Canaan
Ddônt i'r golwg yn y man.
Dal fi, Arglwydd, heb diffygio
Yn nhrofeydd yr anial maith;
Os yw'r ffordd yn flin i'w theithio,
Cyn bo hir daw pen y daith:
Bryniau Canaan
Ddônt i'r golwg yn y man.
Dal fi, Arglwydd; mae cysgodion
Rhosydd Moab bron gerllaw:
Dim ond murmur tonnau'r afon
Rhyngof sydd a'r ochor draw:
Bryniau Canaan
Ddônt i'r golwg yn y man.
1 : Samuel Evans 1777-18332,3: Watkin Hezekiah Williams (Watcyn Wyn) 1844-1905
Tonau [8787447]: |
Hold me, Lord, hold me a while -
No need for thee to hold me long;
More have already travelled
Than are left from the desert land;
The hills of Canaan
Shall come into view soon.
Hold me, Lord, without fail
In the turns of the vast desert;
If the road is grievous to travel,
Before long the destination shall come:
The hills of Canaan
Shall come into view soon.
Hold me, Lord; the shadows of the
The moors of Moab are almost at hand:
Only the murmur of the waves of the river
Are between me and yonder side:
The hills of Canaan
Shall come into view soon.
tr. 2018 Richard B Gillion
|
|