Da i mi fod yr addewid
Wedi ei rhoddi gan fy Nuw,
A bod gair o enau'r nefoedd
Uwch gelynion o bob rhyw;
Ei addewid Ef, gadarn, gref,
Arwain eiddil gwan i'r nef.
Bron yr wyf a digaloni,
Pan y gwelwyf lwybrau cul,
Rhwng rhyw greigiau serth dychrynllyd,
Lle tramgwyddodd llawer mil:
F'enaid gwan, yn y man,
Ddringa etto i fynu i'r lan.
O gwna imi brofi sypiau,
Sypiau peraidd rawn y wlad,
Blas maddeuant pur a heddwch,
Gwleddoedd hyfryd tŷ fy Nhad:
Dyma hwy, perlau mwy,
Gloddiwyd yn ei farwol glwy'.
William Williams 1717-91
Tôn [8787337]: Nuneaton (<1835) gwelir: Aros Iesu yn y rhyfel Mae dy air yn abl fy harwain |
Good for me that the promise
Was given by my God,
And that a word from heaven's mouth
Is above enemies of every kind;
His promise, firm, strong,
Leads the feeble week to heaven.
Almost I am losing heart,
When I see narrow paths,
Between steep, terrible rocks,
Where many a thousand stumbled:
'Tis my weak soul, that soon,
Shall climb up again.
O make me experience the clusters,
The sweet grape-clusters of the land,
The taste of pure forgiveness and peace,
The delightful feasts of my Father's house:
Here they are, pearls evermore,
Mined in his mortal wound.
tr. 2019 Richard B Gillion
|
|