D'wêd i mi, a wyt yn maddeu
Cwympo ganwaith
i'r un bai?
D'wêd a ddeui byth i galon
Sydd yn methu 'difarhau?
'Beth yw pwysau'r
beiau mwyaf
Wyt yn faddeu? - o ba ri'?
Pa un drymaf yw fy mhechod
Ai griddfanau Calfari?
Arglwydd! rhaid i mi gael bywyd;
Mae fy meiau yn rhy fawr,
Fy euogrwydd sy'n cydbwyso
A mynyddau mwya'r llawr:
Rhâd faddeuant, gwawria bellach,
Gwna garcharor caeth yn rhydd,
Fu'n ymdreiglo mewn tywyllwch,
'N awr i weled goleu'r dydd.
William Williams 1717-91
Tôn [8787D]: Bethany (Henry Smart 1813-79) gwelir: Dros bechadur buost farw |
Tell me, art thou forgiving
Falling a hundred times
into the same fault?
Tell, wilt thou ever come to a heart
That is failing to repent?
What is the weight of the
greatest faults
Thou art forgiving? - of what number?
Which is the weightiest - is it my sins
Or the groans of Calfari?
Lord, I must get life!
My sins are too great,
My guilt is of equal weight
To the greatest mountains of earth:
Free forgiveness, dawns now,
It sets the captive prisoner free,
For one who was rolling in darkness,
Now to see the light of day.
tr. 2020 Richard B Gillion
|
|