Dinas noddfa gaw'd o'r diwedd
Fry o fewn ystlysau'r nef,
Ac nis gall fyth mo'r dialydd
Dreiddio'i mewn i drothwy'r dref;
Tŷ fy Nhad, dinas rad,
A bwrcasodd dwyfol wa'd.
Minnau bellach orfoleddaf,
Mae fy mywyd gwerthfawr iawn
Wedi' roddi'n nghudd i gadw
Mewn Cyfryngwr perffaith lawn;
Abal yw, mae e'n Dduw,
Ceidw f'enaid bach yn fyw.
William Williams 1717-91
Tonau [8787337]: |
A city of refuge is found at last
Above within the borders of heaven,
And the avenger can never
Intrude across the town's threshold;
My Father's house, a gracious city,
That was purposed by divine blood.
I henceforth shall rejoice,
My very precious life
Has been put in safe keeping
In the very perfect Mediator;
Able he is, he is God,
To keep my little song alive.
tr. 2020 Richard B Gillion
|
|