Dysg im weddïo'n iawn

(Gweddi Plentyn)
Dysg im weddïo'n iawn,
  A dysg fi'r ffordd i fyw,
Gwna fi yn well, yn well bob dydd,
  Fy mywyd, d'eiddo yw.

Dy blentyn garwn fod,
  O rho i mi fy nghais;
Bydd Di yn Dad i mi, O Dduw;
  Mae D'eisiau Di'n barhaus.

O gwrando 'ngweddi daer,
  Bendithia, nodda fi;
Gwna 'nghalon fach i lawenhau,
  O Dduw, 'n Dy gariad Di.

I'm tywys ar fy nhaith
  D'oleuni geisiaf fi;
Rho im' Dy law, yr wyf yn wan, -
  Am byth, arweinia Di.

Ti'n orau garaf fi,
  O Iesu Grist y Groes;
Fy Nefol Dad, ga'i gydag Ef
  Fyw drwy'n dragwyddol oes?
cyf. D Morgan Davies 1862-1934
Caniedydd Newydd yr Ysgol Sul 1930

Tôn [MB 6686]: Gweddi Plentyn
    (Gwilym R Jones 1875-1953)

(A Child's Prayer)
Teach me to pray aright,
  And teach me thy way to live,
Make me better, better every day,
  My life, thine own it is.

Thy child I would love to be,
  O grant me my request;
Be thou a Father to me, O God;
  Need of thee is enduring.

O listen to my earnest prayer,
  Bless, protect me;
Make my little heart rejoice,
  O God, in thy love.

To lead me on my journey
  Thy light I seek;
Give me thy hand, I am weak, -
  Forever, lead me.

Thou my best love,
  O Jesus Christ of the Cross;
My heavenly Father, may I with him
  Live throughout an eternal age?
tr. 2025 Richard B Gillion


























Gwilym Richard Jones (Gwilym Aman) 1875-1953

Tune [SM 6686]: Gweddi Plentyn
    (Gwilym R Jones 1875-1953)

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~