Dy gyfraith lân argraffa Di,
O Arglwydd, ar fy nghalon i;
A bydded dy ogoniant mawr
Fy ngofal penaf, bob yr awr.
Gwisg f'enaid yn d'arfogaeth gref,
Yn mhob peryglon tan y nef;
Dangos dy fod yn ddigon im',
Yn ngwyneb fy ngelynion llym.
O! bydd dy hunan ar fy rhan,
A dwg fy enaid llesg i'r làn;
O ddyrys flin
anialwch byd,
Gan bwyso arnat ti o hyd.
Pan b'wyf mewn brwydr boeth a blin,
O bydd dy hunan wrth fy nglun;
Tan gysgod dy adenydd clyd,
Cadw fi mwy tra bwy'n y byd.
Yn nydd ofnadwy'r farn a ddaw,
O cadw f'enaid gwan rhag braw;
Rho imi lechu yn dy gôl,
I drag'wyddoldeb maith sy'n ôl.
Morgan Rhys 1716-79
Tonau [MH 8888]: |
Thy holy law imprint thou,
O Lord, upon my heart;
And let thy great glory be
My chief care, every hour.
Clothe my soul in thy strong armour,
In all the perils under heaven;
Show that thou art sufficient for me,
In the face of my keen enemies.
O be thyself on my side
And bring my feeble soul up;
From the troublesome, grievous
desert of the world,
While leaning upon thee always.
When I am in the hot and grievous battle,
O be thyself at my thigh;
Under the shade of thy secure wings,
Keep me evermore while I am in the world.
In the terrible day of judgment to come,
O keep my weak soul from terror;
Grant me to hide in thy bosom,
For a vast eternity that remains.
tr. 2025 Richard B Gillion
|
|