|
perffeithiau a rhagluniaeth Duw)
Dy drugaredd, fy Arglwydd ION,
Sydd hyd eithafion nefoedd;
A'th wirionedd di sydd yn gwau
Hyd y cymylau dyfroedd.
Dy uniondeb fel mynydd mawr,
Dy farn fel llawr yr eigion,
Dy nerth byth felly a barha,
I gadw da a dynion.
O mor werthfawr fy Arglwydd Dduw,
I bawb yw dy dragaredd!
I blant dynion da iawn yw bod
Yn nghysgod dy adanedd.
[Cyflawn o frasder yw'r tŷ tau,
Lle llenwir hwythau hefyd,
Lle y cant ddiod genyt, ION,
O flasus afon bywyd.
O estyn etto i barhau,
Dy drugareddau tirion;
Ni a'th adwaenom di, a'th ddawn
I'r rhai sydd uniawn galon.]
- - - - -
Dy drugaredd, f'Arglwydd Ion,
Sydd hyd eithafion nefoedd;
Ac mae'th wirionedd di'n parhau
Hyd y cymmylau dyfroedd.
Dy fawr drugaredd, Arglwydd Dduw,
Mor werthfawr yw'n dragywydd;
I feibion dynion da yw bod
Yn nghysgod dy adenydd.
O estyn etto i barhau,
Dy drugareddau tirion;
Ni a'th adwaenom di a'th ddawn,
I'r rhai sydd uniawn galon.
Edmund Prys 1544-1623
Tôn [MS 8787]: Llanbeblig (<1835) gwelir: Dy fawr drugaredd f'Arglwydd Iôn Mor werthfawr yw'th drugaredd di O Arglwydd Dduw y lluoedd mawr O frasder da llawn yw dy dŷ O mor werthfawr fy Arglwydd Dduw Ymddyrcha Dduw y nef uwchlaw Yr unwedd ag y brefa'r hydd |
of the perfections and providence of God)
Thy mercy, my Sovereign Lord,
Is up to the extremes of the heavens;
And thy truth weaves
Up to the clouds of waters.
Thy unity like a great mountain,
Thy judgment like the ocean floor,
Thy strength forever thus will continue,
To keep beast and man.
O how precious my Lord God,
To all are thy mercies!
To children of men very good it is to be
In the shade of thy wings.
[Full of fatness is thy house,
Where they also are to be filled,
Where they may drink of thee, Lord,
Of the tasty river of life.
O reach out again to prolong,
Thy tender mercies;
We know thee, and thy gift
To those who are of an upright heart.]
- - - - -
Thy mercy, my Sovereign Lord,
Is up to the extremes of the heavens;
And thy truth is enduring
Up to the clouds of waters.
Thy great mercy, Lord God,
How precious it is eternally;
To the sons of men good it is to be
In the shade of thy wings.
O reach out again to prolong,
Thy tender mercies;
We know thee and thy gift,
To those who are of an upright heart.
tr. 2010,20 Richard B Gillion
|
|