Doed y diluw i deyrnasu
Unwaith eto fel o'r blaen;
Aed y cyfan yn gymysgfa,
Daear, awyr, dŵr, a thân:
Dedwydd fi, yn y lli',
Tra bo'm Duw 'n teyrnasu fry.
Pe diffoddai'r haulwen ddysglaer
Yn yr awyr deneu lâs,
A phe treuliai'r sêr y fflamau
Ynddynt sydd o dân i maes,
Mi gaf fyw gyda 'm Duw,
Mewn dysgleirdeb heb ei ryw.
Mi gaf fod o flaen yr orsedd,
Mi gaf gânu'r anthem bur,
Pan ddarfyddo son am ddaear,
Son am foroedd, son am dir;
Dwyfol loes, angeu'r groes,
Fydd y cânu ddydd a nos.
William Williams 1717-91
Tonau [8787337]: gwelir: Colled pob blodeuyn hyfryd Mi dybygwn gwelai'r bore Ymneilldüwch bethau'r ddaear |
Let the deluge come to reign
Once again like before;
Let the whole become a mixture,
Earth, air, water, and fire:
Happy I, in the flood,
While ever my God be reigning above.
If the radiant sun should extinguish
In the thin blue sky,
And if the flames of fire within
The stars wore out,
I shall get to live with my God,
In radiance without its like.
I shall get to be before the throne,
I shall get to sing the pure anthem,
When mention of earth passes away,
Mention of seas, mention of land;
Divine anguish, the death of the cross,
Shall be the singing day and night.
tr. 2025 Richard B Gillion
|
|