Dedwydd fyth a rodio'n ddiwyd,
A'i gydwybod gydag ef,
Yn y ffyrdd a'i dwg i'r bywyd,
Yng nghyfiawnder mawr y Nef;
Bydd o'i amgylch pob tangnefedd,
Moethau gwynfyd o bob rhyw;
Yn ei galon gwir orfoledd,
Oll o'i enaid yn ei Dduw.
Sylwer prenn
ar ymyl afon
Tŷf yn fywiog ag yn lās,
Hardd ei flodau, pźr ei aeron,
Gwreiddio mae mewn daear frās:
Felly'r doeth,
fo'n hardd ei fuchedd,
A'i gynneddfau'n gariad byw;
Ffrwythlawn yw'm mhob nefol rinwedd,
Gwreiddia'n gadarn yn ei Dduw.
Nid fel hynn y drwg annuwiol;
O bob tir gwasgerir hwy,
Mal yr ūs gann wynt aruthrol;
Dim o'u hol ni
welir mwy,
Tra bo'r iawn ei ymarweddiad
Mewn dedwyddwch o bob rhyw;
Mewn gorfoledd diderfyniad
Yn dragywydd gyda Duw.
Edwyn Duw holl ffyrdd y cyfiawn,
Gwrendy'n dyner ar eu llais;
Ef a'u cynnal dann bob annawn,
Ef a'u gweryd o bob trais;
Tra bo'r drwg i'r coll yn myned,
A'u bydolder o bob rhyw,
Yn waredig o'u caethiwed
Cānt anneddu gyda Duw.
Edward Williams (Iolo Morganwg) 1747-1826Salmau yr Eglwys yn yr Anialwch 1857 [Mesur: 8787D] |
Happy forever is one who walks diligently,
And his conscience with him,
In the ways that he brought to life,
In the great righteousness of heaven;
Around him shall be every tranquility,
The luxuries of blessedness of every kind;
In his heart true joy,
All of his soul in his God.
It is noticed that a tree
by the side of a river
Grows lively and green,
Beautiful its flowers, sweet its berries,
Rooting it is in rich earth:
Likewise the wise,
his manner of life being beautiful,
And his faculties living love;
Fruitful he is in every heavenly virtue,
He will root firmly in his God.
Not so the evil ungodly one;
From every land they shall be scattered,
Like the chaff by a tremendous wind;
Nothing of them left to
be seen any more,
While the behaviour of the righteous is
In happiness of every kind;
In unbounded joy
Eternally with God.
God knows all the ways of the righteous,
He will listen tenderly to their voice;
He shall uphold them under every disaster,
He shall deliver them from all violence;
While the evil goes to perdition,
With their worldliness of every kind,
Delivered from their captivity
They shall get to dwell with God.
tr. 2025 Richard B Gillion
|
|