Dal Dy afael, Iesu tirion,
Rhag fy nghario gyda'r lli,
Ar y geulan mewn peryglon
O Dy law, na ollwng fi;
Byth ni ddaliaf
Rym y cenllif mawr fy hun.
Paid â gadael i amheuon
Aflonyddu arnaf mwy;
Dangos imi mai gelynion
I fy mywyd ydynt hwy;
Cadw f'enaid
Yn Dy ymyl, Geidwad dyn.
Cysgod craig mewn tir sychedig
Fuost imi, Iesu mawr;
A'th ddeheulaw anweledig
A'm cynhaliodd hyd yn awr;
Yn Dy fynwes
Hyd y diwedd, cadw fi.
Ti yn unig yw fy ngobaith,
Ar y ffordd i'r byd a ddaw;
Paid â throi Dy wyneb ymaith,
Dyro im' Dy dyner law;
'Rwyf am dreulio
Tragwyddoldeb gyda Thi.
Evan Rees (Dyfed) 1850-1923
[Mesur: 878747] |
Keep thy hold, tender Jesus,
Lest I be carried be the flood,
On the bank in dangers
From thy hand, do not let me go;
I will never withstand
The force of the great torrent myself.
Do not let doubts
Harass me any more;
Show me that enemies
To my soul are they;
Keep my soul
By thy side, Saviour of man.
The shadow of a rock in a parched land
Thou wast to me, great Jesus;
And 'twas thine invisible right hand
That upheld me until now;
In thy bosom
Until the end, keep me.
Thou alone art my hope,
On the way to the world that is coming;
Do not turn thy face away,
Give me thy tender hand;
I want to spend
Eternity with thee.
tr. 2025 Richard B Gillion
|
|