|
ac i hyderu arno.)
Da iawn
Y fyddai gennyf fyw pe cawn,
O barch i'm Duw yn berchen dawn,
A'm lles yn llawn, a'm llwyth yn llai;
Mae corph marwolaeth wrtho i 'nghlyn,
Ystruan ddyn dan faich o fai.
Duw gad
Im' gennyt ti gael caniatâd,
I orchymyn f'enaid tlawd di-frâd,
I'th ddwylo Dad,
a'm Ceidwad cu;
O derbyn ef pan êl
o'm cnawd,
I gol fy Mrawd
a'm Priod fry.
Fe gas
Dy anheilyngaf waelaf was,
Arwyddion grym gwirionedd gras,
Dy fwyn gymdeithas gynnes gân;
A bwyta'r manna mwyn a'r mêl,
A sicr sêl yr Ysprys Glân.
O Dad,
O'th gariad a'th drugaredd gad,
In' fwyta'r wledd o
fyd da'r wlad,
Ac yfed gwa'd, gwinwydden Duw;
O's bydd i ti ein llonni'n llyn,
A'r ymborth hyn ni fyddwn byw.
Rhyw awr
Mi fyddaf ar y muriau mawr,
Mewn sicrwydd barn
fel cadarn gawr,
Ar fyr i lawr, a'm prawf ymhell;
Anwadal yw fy mhrofiad prudd,
Fe ŵyr fy ffydd i bethau gwell.
Pa'm? Pa'm
Y gwnaf â'm mawr fraint
gymaint gam?
Mae'r gwanna' o'i blant
un Dad un fam,
Mae ei ofal am ei wannaf ŵyn;
Fe ddwg ymlaen y rhai sy'n ol,
O fewn ei gol a'i fynwes fwyn.
|
and to be confident in him.)
Very good
It would be for me to live if I could,
With reverence for my God possessing a gift,
With my benefit full, and my load less;
The body of death is clinging to me,
A wretched man under a burden of fault.
God, let
Me from thee get permission,
To command my poor guileless soul,
Into thy hands, Father,
and my dear Saviour;
O receive it when it goes
from my flesh,
To the bosom of my Brother
and my own One above.
He got,
Thy most unworthy, poorest servant,
Strong signs of the truth of grace,
Thy dear company a warm song;
And eat the dear manna and the honey,
And the certain seal of the Holy Spirit.
O Father,
Of thy love and thy mercy, let
Us eat the feast of the
good world of the land,
And drink blood, the vine of God;
If thou wilt cheer us thus,
With this food we shall live.
Some hour
I shall be on the great walls,
In the certainty of judgment
like a firm giant,
And shortly down, with my test far away;
Wavering is my sad experience,
My faith shall know of better things.
Why? Why
Do I make with my great privilege
such a mistake?
The weakest of his children
of the same Father and mother,
His care is for his weakest lambs;
He lead on those who are behind,
Within his bosom and his dear breast.
tr. 2020 Richard B Gillion |
|