Cyn cael cyrhaedd
gwlad goleuni
Burwyd oll â nefol dân,
Dywed Crist mai
rhaid yw geni
Dyn o newydd oll yn lan;
O hunanol ffrost a balchder
Dwyn y galon gudd yn iach, -
D'od mewn yspryd o addfwynder
Oll yn llwyr fel baban bach.
Coethi gwreiddyn dyfna' 'r teimlad,
Lladd trachwantau o bob rhyw, -
Yn y meddwl, gweyd yn wastad
"Bach wyf fi a mawr yw Duw:"
Bod fel plentyn gwan yn wirion,
Heb na dichell,
twyll, na brad, -
Bod i bawb o'n cylch yn dirion,
Fel y bu ein Harglwydd mad.
Nefol Dad, yn argraphedig
Bo dy air ar f'enaid i, -
Dysg fi i gwympo'n ostyngedig
Fyth o flaen dy fawredd di:
Lladd hunandyb sydd yn dirgel
Nythu yn y fynwes hon, -
Yn ei le rho fryd i isel
Blygu'n wastad ger dy fron.
Felly'n addas y derbyniaf
Gyfraith lan dy deyrnas fwyn,
Ei haddasrwydd ni amheuaf,
Dan ei baich
ni roddaf gwyn, -
Ond disgwyliaf am y borau,
Trwy amynedd dwys a ffydd,
Pan ddaw'n eglur dy drefniadau
Fel goleuni'r canol ddydd.
Daniel Evans (Daniel Ddu o Geredigion) 1792-1846Gwinllan y Bardd 1831 [Mesur: 8787D] |
Before getting to reach
the land of light
All were purified with heavenly fire,
Christ said that is was
necessary for a man
To be born anew all holy;
From selfish boast and pride
To bring the hidden heart healthily, -
To come with a spirit of gentleness
All completely like a little baby.
To refine the deepest root of the feeling,
To kill lusts of every kind, -
In the thought, make constantly
"Small am I and great is God:"
To be like a weak child innocent,
Without either guile,
deceit, or treachery, -
To be to all around us tender,
As was our esteemed Lord.
Heavenly Father, written
Be thy word on my soul, -
Teach me to fall humbly
Forever before thy majesty:
Kill selfishness which is secretly
Nesting in this bosom, -
In its place give a mind to lowly
Bow constantly before thee.
Thus worthily I shall receive
The holy law of thy dear kingdom,
Its suitability I shall not doubt,
Under its burden
I shall not give a complaint, -
But I shall wait for the morning,
Through intense patience and faith,
When the arrangements come clearly
Like the light of midday.
tr. 2016 Richard B Gillion
|
|