Cyfododd Iesu'n wir

(Adgyfodiad ac eiriolaeth Crist)
1,2,3,5;  1,2,4.
  Cyfododd Iesu'n wir,
    Meddiannodd orsedd nef;
  Trysorau'r Ganaan dir,
    Sydd yn er feddiant ef;
Mae'n Llywydd cryf
      ar nef a llawr,
Ar angeu a'r bedd, ac uffern fawr.

  Cynhesodd, do, â'i ddawn,
    Oer wely llaith y bedd,
  Gan ei bereiddio'n llawn,
    I etifeddion hedd:
Mae heddyw'n fyw, uwch poen a gwae,
Awn ar ei ol
      i'r man lle mae.

  Mae'n hynaf Frawd i ni,
    Yn eiriol ar ein rhan,
  Yn darpar uchel fri,
    I bawb o'i deulu gwan:
Awn ar ei ol
      i wely'r bedd,
Cawn godi'n iach
      mewn hylawn hedd.

  Os temptasiynau blin
    Gawn eto fwy na mwy;
  Fe'i temptiwyd Ef ei Hun,
    Fe'n cynhorthwya trwy:
Brawd erbyn dydd
      caledi yw;
Mae'r Oen a laddwyd eto'n fyw.

  Mae ar ddeheulaw'r Tad,
    Yn eiriol gyda grym,
  Ar ddydd yr ing a'r gâd,
    Yn mhoethder rhyfel llym:
Ni chyll, ni chyll,
      llu Sïon wan:
Mae lluoedd cadarn ar ei rhan.

            - - - - -

  Cyfododd Iesu'n wir,
    Meddiannodd orsedd nef;
  Trysorau'r Ganaan dir,
    Sydd yn er feddiant ef;
Mae heddyw'n fyw uwch poen a gwae,
Awn ar ei ol
      i'r man lle mae.

  Mae'n hynaf Frawd i ni
    Yn eiriol ar ein rhan,
  Gan ddarpar uchel fri
    I bawb o'i deulu gwan;
Awn ar ei ol
      i wely'r bedd,
Cawn godi'n iach,
      a hardd ein gwedd.

  Mae ar ddeheulaw'r Tad
    Eiriolwr mawr ei rym,
  Ar ddydd yr ing a'r gad,
    Ym mhoethder rhyfel llym:
Ni chyll, ni chyll
      llu Seion wan -
Mae'n Llywydd cadarn ar eu rhan.
Thomas Jones 1756-1820

Tonau [666688]:
Gopsal (George F Handel 1685-1759)
Lovely (J D Edwards 1805-85)
Normandy (alaw Seisneg)

gwelir: Mae'r hynaf Frawd i ni

(The resurrection and intercession of Christ)
 
  Jesus rose truly,
    He possessed the throne of heaven;
  The treasures of land of Canaan,
    Are in his possession;
He is a strong Governor
      over heaven and earth,
Over death and the grave, and great hell.

  He warmed, he did, with his ability,
    The cold damp bed of the grave,
  Sweetening it fully,
    For the heirs of peace:
Today he is alive, above pain and woe,
Let us go after him
      to the place where he is.

  He is an older Brother to us,
    Interceding on our behalf,
  Preparing high renown,
    For all of his weak family:
Let us go after him
      to the bed of the grave,
We shall get to rise whole
      in plenteous peace.

  If grievous temptations
    We still have more and more;
  He himself was tempted,
    He will help us through;
A brother against the day
      of hardship he is;
The Lamb who was slain is alive again.

  He is at the right hand of the Father,
    Interceding with force,
  Over the day of anguish and the army,
    In the heat of sharp war:
Not lose, not lose,
      shall the host of weak Zion:
There are strong hosts on his side.

                - - - - -

  Jesus rose truly,
    He possessed the throne of heaven;
  The treasures of the land of Canaan,
    Are in his possession;
Today he is alive above pain and woe,
Let us go after him
      to the place where he is.

  He is an older Brother to us
    Interceding on our behalf,
  While preparing high renown
    For everyone of is weak family;
Let us go after him
      to the bed of the grave,
We shall get to rise whole,
      and with our countenance beautiful.

  He is at the right hand of the Father
    An intercessor with great force,
  On the day of anguish and the army,
    In the heat of sharp war:
Not lose, not lose,
      shall the host of weak Zion:
He is a strong Leader on their side.
tr. 2018,20 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~