Cyfoded Brenin mawr y nef

(Cariad brawdol / Duw gyda'i saint yn Seion)
Cyfoded Brenin mawr y nef,
  Gorphwysed yn ei barch;
Ein cadarn Ior, fe'n ceidw ef,
  Rhown ysgwydd dan ei arch.

Dewisodd Seion gyda'i saint,
  Yn drigfan iddo'i hun;
Awn yno i fyw,
    mawrhâwn y fraint,
  Fel brodyr yn gytun.

Mor hyfryd a dymunol yw,
  Gerbron trigolion byd,
Fod brodyr yn cyfeillgar fyw,
  Yn eglwys Dduw yn nghyd.

Cydseiniwn ganiad oll yn gu,
  Â'r llu tu draw i'r llen;
Etifedd Dafydd sy'n ei dŷ,
  Coroned pawb ei ben.
ei ben :: e'n Ben

Thomas Williams (Eos Gwynfa / Eos y Mynydd) c.1769-1848

Tôn [MC 8686]: Abergele (John Ambrose Lloyd 1815-74)

(Brotherly bove / God with his saints in Zion)
Let the great King of heaven arise,
  Let him rest in his honour;
Our firm Lord, he will keep us,
  Let us put a shoulder under his ark.

He chose Zion with his saints,
  As a residence for himself;
Let us go there to live,
    let us magnify the privilege,
  Like brothers in agreement.

How delightful and pleasant it is,
  Before the inhabitants of the world,
That brothers are living sociably,
  In the church of God together.

Let us sound a song all together dearly,
  With the host beyond the curtain;
The heritage of David is his house,
  Let all crown his head.
his head :: him as Head

tr. 2015 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh (corrections welcome). A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~