Cyflawnwyd y gyfraith i gyd

(Crist yn bob peth)
Cyflawnwyd y gyfraith i gyd,
  Fe ddofwyd ei llid heb fy lladd;
Cyfiawnder,
    wrth hir ofyn Iawn,
  Ei daliad yn gyflawn a gadd;
Cyfiawnder a'r gyfraith sy'n awr
  Yn edrych i lawr yn ddi-lid;
Mae'r priodolaethau mewn hedd
  Yn gweiddi "Trugaredd" i gyd.

Ein hymborth, ein cymhorth, a'n cân,
  Y'ngwyneb deddf burlan, a'r bedd;
Ein trysor, ein hallor, a'n nerth,
  Oen pridwerth,
      ein haberth, a'n hedd;
Ein Pwysog galluog, a llawn;
  Ein Iawn,
      i ddeddf gyfiawn ddi-goll;
Ein Brenin, a'n Prophwyd, mewn bri,
  Mae'n babell i ni oll ac yn oll.
Edward Jones 1761-1836
- - - - -
(Iesu digonol)
1,2,(3).
Cyflawnwyd y gyfraith i gyd,
  Fe ddofwyd ei llid heb fy lladd;
Cyfiawnder,
    wrth hir ofyn iawn,
  Ei daliad yn gyflawn a ga'dd;
Cyfiawnder a'r gyfraith sy'n awr
  Yn edrych i lawr yn ddi-lid,
A'n priodoliaethau mewn hedd
  Yn pleidio trugaredd i gyd.

Caed ffynnon o ddwfr a gwaed,
  I olchi rhai duon eu lliw,
Ac hefyd hi redodd yn rhad
  Fr ardal De r oeddwn yn byw:
Er cymmaint o
    rwystrau ga'dd hon,
  Grym arfaeth a'i gyrodd yn mlaen,
I olchi tŷ Dafydd o'r bron,
  Jerusalem hefyd ddaw'n lân.

Wrth gofio'i riddfanau'n yr ardd,
  A'i chwys fel defnynau o waed,
Aredig ar gefn mor hardd
  A'i daro â chleddyf ei Dad;
Ei arwain i Galfari fryn
  A'i hoelio ar
      groesbren o'i fodd,
Pa dafod all dewi am hyn?
  Pa galon mor galed na's todd?
na's todd :: na thôdd

1-2: Edward Jones 1761-1836
3 : Thomas Lewis 1759/60-1842

Tonau [8888D]:
St Andrew's (Lowell Mason 1792-1872)
Rhyl (J Ambrose Lloyd 1815-74)
Salome (alaw Gymreig)

gwelir:
  Caed ffynnon o ddwfr a gwaed
  Pa feddwl pa 'madrodd pa ddawn?
  Wrth gofio'i riddfannau'n yr ardd
  Yn Sïon mae cyfraith ragorol

(Christ as every thing)
Fulfilled was the law altogether,
  His wrath was tamed without killing me;
Righteousness,
    while long demanding Satisfaction,
  Its payment in full it got;
Righteousness and the law which are now
  Looking down without anger;
The attributes are in peace
  Praying "Mercy" altogether.

Our sustenance, our help, and our song,
  In the face of a pure law, and the grave;
Our treasure, our altar, and our strength,
  A beautiful Lamb,
      our sacrifice and our peace;
Our able and full power,
  Our Satisfaction,
      for a righteous, unfailing law;
Our King, and our Prophet, in honour,
  He is a tabernacle for us all and in all
 
- - - - -
(Jesus sufficient)
 
Fulfilled was the law altogether,
  His wrath was tamed without killing me;
Righteousness,
    while long demanding Satisfaction,
  Its payment in full it got;
Righteousness and the law which are now
  Looking down without anger;
The attributes are in peace
  Praying "Mercy" altogether.

There is a fountain of water and of blood.
  To wash those black their colour;
Its streams which ran freely
  To the region where I was living:
Although there were
    so many obstacles there,
  A force of purpose drove it on,
To wash the house of David completely,
  Jerusalem also becoming clean.

While remembering his groans in the garden,
  And his sweat like drops of blood,
Ploughed on the back so beautiful,
  And his stroke with his Father's sword;
His leading to Calvary hill,
  And his being nailed
      to the wooden cross willingly,
What tongue can keep quiet about this?
  What heart so hard that it not melt?
::

tr. 2016 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~