1 Cyflawnodd Crist y ddeddf,
Yn ol ei chyneddf fywiol;
Gan berffaith anrhydeddu hon,
Yn ei gofynion nefol.
2 A thrwy anfeidrol werth
Ei aberth archolledig,
Fe ddaeth yn iachawdwriaeth wiw,
I ddynolryw colledig.
3 Ei fwyd pur i lawr
Ro'es Iesu mawr grasusol,
Tan gafod tost digofaint Duw,
I ni gael byw'n dragwyddol.
4 Er tywallt môr o waed,
Trwy hwn ni chaed maddeuant,
Aneifig ebyrth, llesg eu rhyw,
Rhy eiddil yw eu haeddiant.
5 Ni allai angel pur,
Nac un creadur nefol,
Nac aur, na pherlau gwerthfawr drud,
Trysorau byd amserol,
6 Ddileu mawreddol rym,
Effeithiau awchlym pechod;
Na rhoddi Iawn tros gamwedd dyn,
A'i ddwyn
yn un â'r Duwdod.
GORPHWYSIAD.
7 Ond wele ar y groes,
Yr hwn a ro'es foddlondeb!
Trwy briod aberth
Crist ei hun,
Daeth Duw a dyn mewn undeb.
8 O gwelwn ddagrau gwaed,
O'i draed a'i ddwylaw tirion!
Pan hoeliwyd ef ar ddirfawr grog,
A'i ben dan bigog goron.
9 Mewn ing a gwaedlyd chwys,
Bu'n gogoneddus geidwad;
Ond ni ddiffoddodd angeu llym,
Drag'wyddol rym ei gariad.
10 Mewn dirfawr gur a gwawd,
Pob rhan o'i gnawd oedd glwyfus;
A'i enaid hefyd, anwyl Grist,
Yn wir oedd drist a phoenus.
11 O ôl y waew ffon,
Y tarddodd ffynon fywiol;
Hon sy'n ddigonol i lanhau,
Ein mawrion glwyfau marwol.
12 O'i brynedigion oll,
Yr un ni chyfrgollir;
Er sychu'r mor,
er llosgi'r byd,
Y rhai'n i gyd a gedwir.
13 Hwy ânt trwy angau'n rhydd,
I'r pur lawenydd nefol;
Ac etifeddant, yn ei wedd,
Dangnefedd yn dragwyddol.
Robert Williams (Robert ab Gwilym Ddu o Eifion) 1766-1850
[Mesur: MB 6686] gwelir: Er tywallt môr o waed Mewn ing a gwaedlyd chwys |
1 Christ fulfilled the law,
According to its lively disposition;
By perfectly honouring this,
In his heavenly requests.
2 And through the immeasurable worth
Of His wounded sacrifice,
It came as a fitting salvation,
To lost humankind.
3 His pure life down
Graciously laid great Jesus,
Under the bitter shower of God's wrath,
For us to get to live eternally.
4 Despite the shedding of a sea of blood,
Through this forgiveness is not obtained,
Innumerable sacrifices of a weak kind,
Are too feeble in their merit.
5 A pure angel could not,
Nor any heavenly creature,
Nor gold, nor costly, valuable pearls,
Treasures of a temporal world,
6 Destroy the great force,
Of the keen effects of sin;
Nor grant Atonement for the misdeed of man,
And lead him to be
at one with the Godhead.
BREAK.
7 But see on the cross,
The one who has made satisfaction!
Through the appropriate sacrifice
of Christ himself,
Have God and man come into union.
8 Oh let us see drops of blood,
From his feet and his two tender hands!
When he was nailed on the huge gibbet,
And his head under a thorned crown.
9 In anguish and bloody sweat,
He was a glorious Saviour;
But sharp death has not extinguished,
The eternal force of his love.
10 In a great beating and scorn,
Every part of his flesh was wounded;
And his soul also, dear Christ,
Truly was sad and afflicted.
11 From the mark of the spear,
Sprang a lively fountain;
This is sufficient to cleanse,
Our great mortal wounds.
12 From all his redeemed,
The same not to be damned;
Despite the sea's drying,
the world's burning,
They are all to be saved.
13 They shall go free through death,
To the pure heavenly joy;
And they shall inherit, in his countenance,
Peace eternally.
tr. 2013 Richard B Gillion
|
|