Cyd(-)uned trigolion y ddaear i gyd

1,2,3,(4).
(Dyrchafu'r Iachawdwr)
Cyduned trigolion
    y ddaear i gyd
Mewn sain o glodforedd
    i Brynwr y byd;
  Mor dirion ei gariad
      at holl ddynol-ryw:
  Troseddwyr a eilw
      i ddychwelyd a byw.

I gadw'r colledig,
    o'r nefoedd y daeth
Rhoi bywyd i'r marw
    a rhyddid i'r caeth;
  Am hyn gorfoleddwn,
      mae inni iachâd
  A bywyd tragwyddol
      drwy haeddiant ei waed.

Prysured y dyddiau
    yn fuan i ben
Pan foler yr Iesu
    gan bawb is y nen;
  Doed pobloedd y ddaear yn 
      gyson i gyd
  I ganmol a charu
      Iachawdwr y byd.

Cyrhaedded y' fengyl
    oleu-wen pob gwlad,
Ynysoedd pellenig
    f'o i dderbyn ryddhâd,
  Aed heibio'r tywyllwch,
      a thorred y wawr,
  Tywyned yr haelwen
      hyd eithaf y llawr.
Diferion y Cyssegr 1804

Tonau [11.11.11.11]:
Glantawe (David Richards 1880-1950)
Joanna (alaw Gymreig)

(Exalting the Saviour)
Let all the inhabitants
    of earth unite
In a sound of praise
    to the Redeemer of the world;
  So tender his love
      to all human-kind:
  Transgressors he calls
      to return and live.

To call the lost,
    from heaven he came
To give life to the dead
    and freedom to the captive;
  Therefore let us rejoice,
      there is healing for us
  And eternal life
      through the merit of his blood.

Let the day hasten
    soon to its fulfilment
When Jesus is to be praised
    by everyone under the sky;
  Let all the peoples
      of the earth come constantly
  To extol and love
      the Saviour of the world.

Let the bright, white gospel
    reach every land,
Distant islands
    be receiving it readily,
  Let the darkness pass,
      and let the dawn break,
Let the sunshine radiate
    to the extremities of the earth.
tr. 2015,19 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~