Cyd-glodforwn Dduw y duwiau

(Diolchgarwch am ryfeddol ymwared
o ddwylaw'r Gelynion)
Cyd-glodforwn Dduw y duwiau
  Am ein breintiau yn ein bro:
Dylem oll yn ddi-anwadal
  Ddyfal gynnal hyn ar go':
Yn ein gwlad yn lle lladdiadau,
  Sŵn yr arfau,
      tyrfau tân,
Mae Efengyl bêr leferydd,
  Uchel glodydd Iesu glân.

Yn lle goddef poen a dychryn,
  Arfau'r gelyn, dirfawr gas,
Mae'n holl anneddau mewn llonyddwch,
  Drwy dirionwch Duw a'i ras;
Hedd oedd haeddol destyn carol,
  Llïaws nefol gynt yn un:
Mae'n clodfori'r Iesu hawddgar
  Nef a daear, - cerub - dyn!

Dyma'r gwyl,
    bo'ed tyner galon
  Gan y mawrion wyr, a'r mân;
Am ein heddwch, a'n tawelwch,
  Diolchgarwch fyddo'r gân:
Clod, na wnaed ein
    cyrph yn ddrylliau
  O flaen arfau dïal ne';
Rhwygiad calon edifeiriol
  Fo'n dilynol gadw ei le.

Am warediad, - mawr anrhydedd
  I Dduw'r mawredd fyddo mwy;
Bywyd ffyddlawn o ufudd-dod,
  Nid am ddiwnod - awr, - neu ddwy;
Dilyn llwybrau ein Gwaredydd,
  Arfer beunydd farw i'r byd;
Edrych dros derfynau amser,
  Lle mae Bro
      yn haeddu'n bryd.

Draw mae gwlad o wir dawelwch,
  Ardal heddwch, hir di-lŷth;
Gwlad na threiddia ar aweloedd
  Sŵn rhyfeloedd yno fyth;
Tra bo'r oriau'n cael eu rhifo,
  Oes yn pwyso at y pen,
Ceisiwn hawl y'ngwlad gogoniant,
  Prawf yn mwyniant Nef, Amen.
David Thomas (Dafydd Ddu o Eryri) 1759-1822

Corph y Gaingc 1810

[Mesur: 8787D]

(Thanksgiving for a wonderful deliverance
from the enemy's hands)
Together let us extol the God of gods
  For our privileges in our vale:
We should all unwaveringly
  Dilgently commit this to memory:
In our land instead of killings,
  The sound of weapons,
      the thunder of fire,
There is the sweet Gospel utterance,
  The high praises of holy Jesus.

Instead of suffering pain and horror,
  The enemies weapons, enormous hatred,
All the dwellings are in tranquility,
  Through God's tenderness and his grace;
Peace was the worthy theme of a carol,
  Of a heavenly multitude as one:
It is extolling beautiful Jesus
  Heaven and earth, - cherub - man!

Here is the festival,
    let there be a tender heart
  With the great men, and the small;
For our peace, and our tranquility,
  Let thanksgiving be the song:
Praise, that our bodies
    were not made into pieces
  Before the avenging weapons of heaven;
The rending of a repentant heart
  Be consequently keeping its place.

For a deliverance, - great honour
  To God the majesty be evermore;
A faithful life of obedience,
  Nor for a day - an hour, - or two;
Following the paths of our Deliverer,
  A daily practice of dying to the world;
Looking across the boundaries of time,
  Where there is a vale
      deserving our attention.

Yonder is a land of true quietness,
  A region of peace, long unfailing;
A land whose breezes are not penetrated
  By the sound of wars there ever;
While ever the hours get numbered,
  An age weighed at the end,
Let us seek a claim in the land of glory,
  And experience of enjoying heaven, Amen.
tr. 2018 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~