Cul yw'r llwybr imi gerdded

Cul yw'r llwybr imi gerdded,
  Is fy llaw mae dyfnder mawr,
Ofn sydd arnaf yn fy nghalon
  Rhag i'm troed i lithro i lawr:
Yn Dy law y gallaf sefyll,
  Yn Dy law y dôf i'r làn,
Yn Dy law byth ni ddiffygiaf,
  Er nad ydwyf fi ond gwàn.

Dysg fi gerdded trwy'r afonydd,
  Na'm dychryner gan y llif,
Na b'wy'n ildio gyda'r tònau,
  Temtasiynau fwy na rhif;
Cadw 'ngolwg ar y bryniau
  Uchel, heirdd, tu draw i'r dŵr;
Cadw 'ngafael yn yr afon
  Ar yr Iesu'r blaenaf Wr.
William Williams 1717-91

Tonau [8787D]:
Aberporth (John Thomas 1839-1921)
Achor (<1876)

gwelir: Cyfarwydda f'enaid Arglwydd

Narrow is the path for me to walk,
  Under my hand is a great deep,
Fear is upon me in my heart
  Lest my foot slip down:
In Thy hand I can stand,
  In Thy hand I will come up,
In Thy hand I shall never fail,
  Although I am only weak.

Teach me to walk through the rivers,
  I am not to be terrified by the flow,
Nor shall I be yielding with the waves,
  Of temptations more than number;
Keep my sight on the high,
  Beautiful hills beyond the water;
Keep my grasp in the river
  On Jesus the foremost Man.
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~